Cwest yn agor i farwolaeth dynes gafodd ei tharo gan gar
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi cael ei agor i farwolaeth dynes o Langollen gafodd ei tharo gan gar ychydig gannoedd o lathenni yn unig o'i chartref.
Cafodd Margaret Jones, 87, ei hedfan i ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol wedi'r gwrthdrawiad gyda char Kia ar Stryd y Castell fore Iau, 15 Awst.
Bu farw yn yr ysbyty'n ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Clywodd y cwest yn Rhuthun bod Mrs Jones wedi dioddef anafiadau difrifol i'w hymennydd.
Cafodd y gwrandawiad ei ohirio nes dyddiad sydd eto i'w gadarnhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Awst 2019