Rotorua, Wellington a Twickenham: Gemau cofiadwy Cymru

  • Cyhoeddwyd
cwpan y byd

Gyda Chwpan Rygbi'r Byd 2019 yn dechrau yn Japan ar 20 Medi, mae Gareth Charles yn dechrau cyfres o golofnau drwy restru ei atgofion melysaf o Gymru yn y bencampwriaeth dros yr holl flynyddoedd mae wedi bod yn sylwebu arni:

line

Cwpan y Byd 1987 (Seland Newydd ac Awstralia)

Pan gyhoeddwyd bod Cwpan Rygbi'r Byd i gael ei gynnal yn 1987 doedd neb yn gwybod beth i'w ddisgwyl ond erbyn i gapten Seland Newydd, David Kirk, godi Tlws Webb Ellis roedd y byd rygbi ar fin newid a bellach mae popeth yn troi mewn cylchoedd o bedair blynedd.

robert jonesFfynhonnell y llun, Russell Cheyne
Disgrifiad o’r llun,

Mewnwr Cymru, Robert Jones, yn clirio'r pwysau gyda chic yn erbyn Awstralia yn y fuddugoliaeth yn Rotorua, 13 Mehefin, 1987

Os oedd neb yn gwybod beth i'w ddisgwyl doedd neb chwaith yn disgwyl i Gymru orffen yn drydydd - ond dyna wnaethon nhw dan gapteiniaeth Richard Moriarty a dan arweiniad Jonathan Davies a set o olwyr talentog a oedd yn cynnwys Robert Jones, John Devereux, Mark Ring, Adrian Hadley ac Ieuan Evans.

Roedd gêm y trydydd safle yn erbyn Awstralia yn Rotorua yn dynn, cystadleuol a dadleuol - Awstralia lawr i 14 o fewn pum munud a'r fantais yn newid dwylo'n gyson. Ar ei hôl hi â munudau i fynd fe sgoriodd Adrian Hadley gais gwych yn y gornel, a gyda throsiad Paul Thorburn reit o'r ystlys, Cymru oedd yn dathlu buddugoliaeth 22-21. Trydydd yn y byd - safle gorau Cymru yn y gystadleuaeth hyd heddiw.

line

Cwpan y Byd 1999 (Cymru, Lloegr, Ffrainc, Iwerddon, Yr Alban)

cwpan y bydFfynhonnell y llun, FRANCOIS MARIT
Disgrifiad o’r llun,

Y seremoni agoriadol i Gwpan y Byd 1999, 1 Hydref

Yn 1999 roedd Cymru wedi llwyddo i wahodd y byd rygbi i'w cartre' nhw (ynghyd â gweddill Prydain a Ffrainc!). Roedd ganddyn nhw stadiwm newydd sbon ar gyfer yr achlysur ac roedd gan y seremoni agor naws ddiedifar Gymreig - o'r corau meibion a Bryn Terfel i Catatonia, Max Boyce a Shirley Bassey yn ei gwisg Draig Goch.

Ac roedd gan Gymru dîm teilwng o'r achlysur hefyd. Dan adain Graham Henry roedden nhw ar rediad o naw gêm heb golli pan agorwyd y gystadleuaeth gyda'r gêm yn erbyn yr Ariannin. Colin Charvis gafodd y fraint o sgorio cais cynta'r gystadleuaeth a Chymru'n sicrhau buddugoliaeth glos 23-18.

Daeth y rhediad i ben bythefnos wedyn yn erbyn Samoa - mewn gêm lle rhoddodd Neil Jenkins ei enw yn y llyfrau hanes fel y chwaraewr rygbi cyntaf i gyrraedd mil o bwyntiau rhyngwladol. Ac fe ddaeth rhediad Cymru yn y Cwpan i ben yn rownd yr wyth olaf yn erbyn Awstralia, ond roedd Cymru nôl ar fap rygbi'r byd.

line

Cwpan y Byd 2003 (Awstralia)

charvisFfynhonnell y llun, Manuel Blondeau
Disgrifiad o’r llun,

Blaenasgellwr Cymru, Colin Charvis, yn rhwygo amddiffyn y Crysau Duon, 2 Tachwedd 2003

Stadiwm Telstra, Sydney, oedd y lleoliad ar gyfer un o'r gemau mwyaf anhygoel yn hanes rygbi Cymru. Ar ôl ennill tair mas o dair roedd Cymru'n saff yn rownd yr wyth olaf ond ar gyfer gêm ola'r grŵp yn erbyn Seland Newydd fe synnodd Steve Hansen bawb gan wneud deg newid a rhoi gemau cyntaf i Garan Evans yn gefnwr a Shane Williams oedd wedi bod yn sâl yn ei wely drwy'r wythnos.

Ŵyn i'r lladdfa oedd rhagdybiaeth pawb, yn enwedig ar ôl i Joe Rokocoko sgorio o fewn dwy funud, ond fe dröwyd y disgwyliadau ar eu pen gyda Shane yn disgleirio a Chymru'n chwarae rygbi cwbl wefreiddiol. Am y tro cyntaf erioed fe sgoriodd Cymru bedwar cais yn erbyn y Crysau Duon a phan groesodd Shane am y pedwerydd, ychydig wedi'r egwyl, roedd Cymru ar y blaen a phawb yn gegrwth!

Fe ddaeth y Crysau Duon nôl i ennill 53-37. 90 o bwyntiau, 12 cais ac er bod Cymru wedi colli'r gêm roedden nhw wedi ennill calonnau cefnogwyr o bob gwlad.

line

Cwpan y Byd 2011 (Seland Newydd)

PhillipsFfynhonnell y llun, AFP Contributor
Disgrifiad o’r llun,

Mewnwr Cymru, Mike Phillips, yn mynd heibio ei gyd-chwaraewr o'r Gweilch ar y pryd, Tommy Bowe, i sgorio yn y gornel, 8 Hydref, 2011

Ar ôl y siom o fethu dod mas o'r grŵp yn Ffrainc yn 2007 roedd y disgwyliadau'n fawr yn 2011 a Warren Gatland yn dychwelyd i'w famwlad. Er colli o bwynt i Dde Affrica fe lwyddodd Cymru i gyrraedd rownd yr wyth ola'n gyffyrddus - ac yn eu haros nhw, Iwerddon.

Os oes un chwaraewr wedi llwyddo i fynd dan groen y Gwyddelod, Mike Phillips yw hwnnw. Roedd ei gais, gan ddefnyddio'r bêl anghywir yng Nghaerdydd ychydig fisoedd ynghynt, yn dal yn fyw yn y cof ond doedd dim dadleuol am y cais hollbwysig sgoriodd e yn Wellington - perl o gais unigol o amgylch ochr dywyll sgarmes a hedfan drwy'r bwlch lleiaf i dirio yn y gornel.

Erbyn i Jon Davies ychwanegu cais hwyr doedd hynny ond eisin ar y gacen - buddugoliaeth gyffyrddus 22-10 a Chymru yn y rownd gynderfynol am y tro cyntaf ers y gystadleuaeth gyntaf un. Trueni bod Gwyddel arall - Alain Rolland yn eu haros nhw!

line

Cwpan y Byd 2015 (Lloegr a Chymru)

cymruFfynhonnell y llun, David Rogers
Disgrifiad o’r llun,

Jamie Roberts, Alun Wyn Jones ac eraill mewn gorfoledd wrth ddathlu'r fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr yn Twickenham, 26 Medi, 2015

Gyda Chymru, Lloegr ac Awstralia yn yr un grŵp roedd un o'r gwledydd mawr ddim yn mynd i gyrraedd y chwarteri a doedd y wlad oedd yn cynnal y gystadleuaeth erioed wedi methu dianc o'r grŵp.

Felly roedd hyd yn oed mwy o arwyddocâd i ymweliad Cymru â Twickenham ddiwedd Medi 2015. Roedd yr awyrgylch yn danbaid - yn fwy heriol nag arfer ac yn help i godi'r Saeson ar gyfer yr achlysur. Nhw gafodd y gorau ohoni - 19-9 ar yr egwyl yn mynd yn 22-12 â hanner awr i fynd. Roedd natur gorfforol y gêm yn dangos gyda Chymru'n colli Scott a Liam Williams a Hallam Amos gydag anafiadau.

Ond yn eironig fe drodd yn achubiaeth i Gymru gyda'r mewnwr Lloyd Williams yn gorfod chwarae ar yr asgell chwith. Yn hwyr iawn yn y gêm fe saernïodd gic ryfeddol i alluogi'r mewnwr arall Gareth Davies i dirio dan y pyst i ddod â Chymru'n gyfartal. Roedd angen cic gosb arall gan y dibynadwy Dan Biggar (sgoriodd record o 23 pwynt) i ennill y gêm. Yn ôl rhai buddugoliaeth fwyaf Cymru ar dir estron a sylwebwyr diduedd BBC Cymru yn cael eu dal ar fideo yn dawnsio mewn gorfoledd!

Hefyd o ddiddordeb: