Cwpan y Gynghrair: Siom i Gaerdydd a Chasnewydd

  • Cyhoeddwyd
Cwpan Y GynghrairFfynhonnell y llun, James Marsh/BPI/REX/Shutterstock

Roedd hi'n noson siomedig i ddau dîm o Gymru yn ail rownd Cwpan y Gynghrair wedi i Gaerdydd a Chasnewydd golli eu lle yn y gystadleuaeth.

Cafodd yr Adar Gleision eu curo 0-3 gan Luton Town yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda Junior Hoilett yn rhoi'r bêl yn ei rwyd ei hun i sgorio gôl gyntaf y gwrthwynebwyr.

Colli o 0-2 wnaeth Casnewydd yn erbyn West Ham o Uwch Gynghrair Lloegr yn Rodney Parade, er gwaethaf hanner cyntaf addawol.

Bu bron i Padraig Amond roi'r Alltudion ar y blaen gydag ergyd wych a gafodd ei hatal, cyn i Jack Wilshere fanteisio ar gamgymeriad gan Kyle Howkins i sgorio'i gôl gyntaf i West Ham.

Yn yr ail hanner fe gynyddodd pwysau'r ymwelwyr gan orfodi chwaraewyr Casnewydd fwyfwy i amddiffyn yn eu hanner eu hunain,

Pablo Fornals sgoriodd yr ail gôl i sicrhau nad oedd y gwrthwynebwyr yn colli i'r tîm o Adran Dau fel y gwnaeth timau eraill o'r Uwch Gynghrair yn y blynyddoedd diwethaf yng Nghwpan FA Lloegr.

Mae Luton - sydd yn bedwar safle'n is na Chaerdydd yn y Bencampwriaeth - yn cyrraedd trydedd rownd Cwpan y Gynghrair am y tro cyntaf mewn 12 mlynedd wedi i goliau Alan Sheehan a Jake Jervis yn yr ail hanner ymestyn eu mantais.

Eto i gyd, roedd Caerdydd wedi cael mwy o feddiant yn yr hanner cyntaf - a mwy o gyfleoedd, gan gynnwys dau gan Omar Bogle.

4,111 oedd nifer y dorf - yr isaf ar gyfer gêm gartref i'r Adar Gleision ers iddyn nhw symud i Stadiwm Dinas Caerdydd 10 mlynedd yn ôl.