Canabis meddygol bachgen ag epilepsi yn £4,000 y mis

  • Cyhoeddwyd
Bailey WilliamsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed teulu Bailey Williams bod ei gyflwr wedi gwella ers cymryd y meddyginiaeth sydd â chanabis ynddyn nhw

Mae teulu bachgen epileptig yn talu miloedd o bunnoedd y mis yn breifat am ganabis meddygol oherwydd nad yw ar gael ar y gwasanaeth iechyd.

Newidiodd y gyfraith fis Tachwedd diwethaf fel y gallai meddygon arbenigol gynnig meddyginiaeth sy'n cynnwys canabis i gleifion.

Ond dim ond llond llaw o bresgripsiynau sydd wedi bod ar gael oherwydd pryderon am ddiogelwch ac effeithiolrwydd.

Dywedodd rhieni Bailey Williams, 17 o Gaerdydd, ei fod wedi cael llai o ffitiau ers iddo ddechrau cymryd y cyffuriau.

Ond dywedon nhw y byddai'r llwyth misol nesaf yn costio £4,000 ac maen nhw'n poeni na fyddan nhw'n gallu ei fforddio yn y tymor hir.

Mae gan Bailey fath prin o epilepsi o'r enw Syndrom Lennox-Gastaut.

Cafodd olew canabis o'r enw bedrolite ei roi iddo gan niwrolegydd pediatreg preifat yn Llundain.

Mae'n cynnwys swm bach o THC - cyfansoddyn seicoweithredol canabis.

Dywedodd ei fam, Rachel Rankmore nad oedd gan y teulu "ddim ar ôl i'w golli, roedden ni jest angen trial e".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Craig Williams a Rachel Rankmore am i Bailey (ail dde) fwynhau ei fywyd yng nghwmni ei frawd, Ross (chwith)

Ond mae presgripsiwn preifat Bailey, gafodd ei roi iddo ym mis Mehefin, yn cael ei fewnforio yn arbennig o'r Iseldiroedd.

Dywedodd ei dad, Craig Williams: "Pe byddech chi'n ei brynu'n uniongyrchol o'r Iseldiroedd, mae'n £150 y botel.

"Oherwydd bod yn rhaid i'r DU ei fewnforio, mae gennych eich ffioedd mewnforio, yna mae gennych gostau eich fferyllfa ar ben, fel bod yr un botel £150 yn dod yn £500."

Mae'r teulu'n disgwyl i bresgripsiwn Bailey ym mis Hydref gostio bron i £4,000 wrth i'r dos gynyddu.

'Codi arian'

Mae'r teulu wedi codi £15,000 i ariannu'r cyffuriau ond dywedodd Ms Rankmore nad oedd y teulu'n gallu parhau "begian am arian".

Dywedodd bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro eu bod nhw'n "parhau i weithio gyda'r teulu".

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd unrhyw gynhyrchion canabis wedi pasio profion yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd.

Ychwanegodd llefarydd y gallai cynnyrch canabis felly "o bosibl [fod] yn fwy o risg i gleifion na meddyginiaethau trwyddedig".