Prif Gwnstabl: 'Amser trafod' cyfreithloni cyffuriau
- Cyhoeddwyd
Mae'n "bryd cael trafodaeth" ynglŷn â chyfreithloni cyffuriau, yn ôl Prif Gwnstabl dros dro Heddlu Gogledd Cymru.
Dywedodd Gareth Pritchard ei fod yn cytuno i raddau â safbwyntiau Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu'r Gogledd, sydd wedi bod yn llafar ar y pwnc sawl tro.
Mewn cyfweliad arbennig â gohebwyr BBC Cymru cyn iddo ymddeol ddydd Gwener, fe wnaeth Mr Pritchard, 56, hefyd godi cwestiynau am natur gwaith swyddogion, a mynegi pryderon am gyllidebau'r dyfodol.
Bu hefyd yn amlinellu nifer o newidiadau sydd wedi ei wynebu yn ystod ei yrfa, gan adnabod ambell i her ar gyfer y dyfodol.
'Ystyried yn fanwl'
Wrth drafod cyfreithloni cyffuriau, dywedodd Mr Pritchard: "'Dan ni'n gweld cymaint o beryglon, cymaint o niwed mae cyffuriau yn ei wneud yn ein cymunedau ni.
"Mae'n broblem enfawr, ein gwaith ni ydy i orfodi'r gyfraith a dyna 'dan ni'n ei wneud - ond dwi'n cytuno efo Arfon bod angen cael y drafodaeth."
Ond ychwanegodd: "Mae isio ystyried hynna mewn manylder - 'dan ni'n gweld yn lleol cynnydd mawr yn y nifer o bobl sy'n gyrru o dan gyffuriau, mae hynny'n berygl.
"Mae'n rhaid ystyried a meddwl yn fanwl beth ydy'r goblygiadau o unrhyw newid yn y gyfraith."
Dywedodd Mr Pritchard hefyd fod "newid mewn cymdeithas" wedi arwain at newid mawr yng ngwaith yr heddlu.
"Ers talwm, roedd y rhan fwyaf o alwadau yn ymwneud â throseddau fel lladrata a dwyn o geir ac yn y blaen, ond erbyn heddiw, mae'r rhan fwyaf yn ymwneud â phryderon am bobl fregus," meddai.
"Mae 'na lot o broblemau iechyd meddwl, ac mae 'na lot fawr o bobl yn mynd ar goll, felly mae lot o'n hamser yn mynd i gadw pobl fel hyn yn ddiogel.
"Oherwydd y pwysau mawr sydd ar ein gwasanaethau y dyddiau hyn, pan mae pobl mewn argyfwng, yn aml yr heddlu yw'r unig rai all pobl ei ffonio, ac mae'n rhaid i ni ymateb i bob achos."
Toriadau
Daeth Mr Pritchard yn Brif Gwnstabl dros dro ar y llu yn dilyn ymadawiad Mark Polin ym mis Gorffennaf eleni, wrth iddo gymryd rôl fel cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Eglurodd Mr Pritchard, sydd wedi rhoi 34 mlynedd o wasanaeth i'r llu, fod yr angen am gydweithio gydag asiantaethau eraill wedi cynyddu, a bod staff y Gwasanaeth Tân ac Achub a'r Gwasanaeth Ambiwlans bellach wedi eu lleoli ochr yn ochr â stafell reoli'r heddlu yn Llanelwy.
"Mae'r heddlu wedi gorfod datblygu adrannau mwy arbenigol er mwyn delio gyda throseddu mwy cymhleth, fel troseddau ar-lein, gan fod troseddwyr wedi mynd yn fwy soffistigedig ar hyd y blynyddoedd felly mae angen i ymateb yr heddlu fod yn fwy proffesiynol."
Mynegodd bryder fodd bynnag am doriadau i gyllidebau'r heddlu dros y blynyddoedd.
"'Dan ni wedi colli £30m dros y saith mlynedd diwethaf, mae'n rhaid ariannu'r heddlu ac mae'n rhaid i bobl sylweddoli fod yr heddlu yn gwneud gwaith arbennig o bwysig 24 awr y dydd," meddai.
"Mae'n rhaid i ni barhau i gael cefnogaeth y cyhoedd a'r llywodraeth er mwyn i ni allu dal ati i gefnogi'n cymunedau ni."
Dywedodd hefyd y gallai fod o blaid datganoli plismona i Gymru yn y dyfodol, yn dibynnu ar y "goblygiadau a'r manylder".
"Pan 'dan ni'n arwain ymchwiliadau mawr yn y gogledd 'dan ni wedi cael cefnogaeth enfawr gan heddluoedd Lerpwl a Manceinion, 'dan ni'n gweithio'n agos iawn 'efo nhw o ddydd i ddydd," meddai.
"Felly os fysa 'na ddatganoli'n mynd i fod, fyswn i ddim eisiau colli'r berthynas agos yna 'efo Swydd Caer, Lerpwl a Manceinion."
'Dim teimlad gwell'
Mae Mr Pritchard wedi cael boddhad mawr yn datrys achosion o bobl ar goll, ac wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu partneriaethau gydag asiantaethau allanol, sy'n arbenigo mewn ymgyrchoedd chwilio am bobl.
"Dwi wastad yn falch o allu mynd â phlentyn sydd wedi bod ar goll yn ôl at eu teulu, roedd 'na ddigwyddiad yr haf diwethaf lle roedd 'na blentyn pump oed wedi mynd ar goll.
"Doedd 'na ddim teimlad gwell na gallu dychwelyd y plentyn yna at ei fam."
Mae Carl Foulkes, sy'n wreiddiol o Gaergwrle ger Wrecsam, eisoes wedi ei gadarnhau fel olynydd Mr Pritchard ac mae wedi dweud bod dysgu Cymraeg yn flaenoriaeth iddo wrth ymgymryd â'r swydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2018
- Cyhoeddwyd8 Mai 2018
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2018