Carcharu dau am ddwyn gan berfformiwr dall ym Mangor

  • Cyhoeddwyd
Alan Fothergill a Gary WilliamsFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Alan Fothergill (chwith) yn treulio 26 mis yn y carchar tra bod Gary Williams wedi'i ddedfrydu i 30 mis

Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu am ddwyn arian gan berfformiwr stryd dall ar stryd fawr Bangor.

Fe ddisgrifiodd y barnwr y lladrad fel "gweithred ofnadwy" a bod "cyffuriau wedi gwneud iddyn nhw iselhau eu hunain i'r fath raddau".

Bydd Gary Williams, 51 oed o Fangor, a blediodd yn ddieuog i'r cyhuddiad o ddwyn, yn treulio 30 mis dan glo.

Plediodd Alan Fothergill, 43 o Faesgeirchen, yn euog ac mae wedi ei garcharu am 26 mis, sy'n cynnwys deufis o ddedfryd flaenorol oedd wedi'i ohirio.

Fe ddigwyddodd y lladrad ar stryd fawr Bangor ym mis Mehefin.

Roedd Chris Chadwick-Parnell yn chwarae cerddoriaeth ar y stryd gyda'i gi tywys gerllaw pan gafodd arian ei gymryd o'i gês gitâr gan Fothergill.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Chris Chadwick-Parnell, sy'n wreiddiol o Weriniaeth Iwerddon, ei olwg pan yn 15 oed

Fe gafodd yr arian ei roi i Williams, cyn iddo roi cyfran fechan o'r hyn a gafodd ei ddwyn - £4 - yn ôl yn y bocs.

Mewn datganiad dywedodd Mr Chadwick-Parnell nad oedd yn gallu perfformio ar y stryd mwyach gan fod y digwyddiad wedi cael effaith arno.

Ychwanegodd fod hyn wedi ei arwain at gael trafferthion ariannol, ag yntau ar fin dod yn dad. Roedd chwarae cerddoriaeth hefyd yn ei "helpu'n emosiynol", meddai.

Cafodd y digwyddiad ei ffilmio ar ffôn symudol a'i rannu ar wefannau cymdeithasol.

Wrth ddedfrydu'r ddau, dywedodd y Barnwr Huw Rees: "Fe wnaethoch chi ddweud celwydd wrth gael eich holi gan yr heddlu ac mae'r ddau ohonoch yn rhoi'r bai ar y llall.

"Fe wnaethoch dargedu person bregus anabl."