Enwau mwyaf poblogaidd ar fabis
- Cyhoeddwyd
Yn 2018, ganwyd dros 650,000 o fabis yng Nghymru a Lloegr, ac mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi cyhoeddi rhestrau o'r 100 enw mwyaf poblogaidd i ferched a bechgyn.
Dyma restrau Cymru Fyw o'r enwau Cymreig mwyaf poblogaidd ar fabis a anwyd yng Nghymru y llynedd:
Enwau merched (a'r nifer)
1. Ffion (78)
2. Megan (77)
3. Seren (76)
4. Erin (74)
5. Mali (72)
6. Alys (65)
7. Eira (50)
8. Martha (43)
9. = Cadi (40)
9.= Lili (40)
Lili yw'r unig enw newydd i'r 10 uchaf, gan gymryd lle Nia (38), sydd bellach yn safle 14 ein rhestr.
Rhai o'r enwau eraill sydd hefyd yn methu allan ar safle yn ein 10 uchaf yw Gwen (39), Mabli (38) a Nansi (38).
Yr enw sydd ar frig rhestr ehangach yr ONS o'r 100 enw mwyaf poblogaidd yng Nghymru yw Olivia - sydd wedi dal y safle yma ers 2016. Eleni, ganwyd 264 Olivia yng Nghymru.
Enwau bechgyn (a'r nifer)
1. Arthur (128)
2. Harri (121)
3. Dylan (118)
4. Osian (109)
5. Evan (89)
6. Jac (78)
7. Elis (76)
8. Macsen (66)
9. Tomos (63)
10. Rhys (56)
Ioan (54), Cai (44) ac Owen (43) yw'r enwau sydd yn methu allan ar le yn y 10 uchaf.
Oliver sydd ar frig y rhestr o'r 100 enw mwyaf poblogaidd yng Nghymru, gyda 317 Oliver bach newydd wedi eu geni yma y llynedd. Mae wedi bod yn y safle cyntaf ers 2013.
I gael y wybodaeth yn llawn ar wefan ONS, cliciwch yma., dolen allanol
Hefyd o ddiddordeb: