Cwpwl yn colli 13 stôn mewn 15 mis
- Cyhoeddwyd
Dair blynedd yn ôl, pan oedd hi'n disgwyl babi, dechreuodd Lon Moseley boeni am ei phwysau wrth iddi gael ei thrin fel claf risg uchel am ei bod hi'n drwm.
"Na'th y consultant hala ofn arna i wrth restru'r holl bethe oedd yn mynd i fynd yn rong," meddai.
"O'dd hi'n assumed mod i'n mynd i gael diabetes ond ches i ddim. Ges i enedigaeth rhwydd iawn."
Ar ôl magu mwy o bwysau ar ôl rhoi genedigaeth i ferch fach, penderfynodd Lon fod yn rhaid i bethau newid.
"Yn ystod parti pen-blwydd Gwenllian yn flwydd, o'n i ofn dringo lan i dop y lle soft play i chwarae gyda hi rhag ofn y bydden i'n torri rhywbeth. Dyna pryd nes i benderfynu bod ishe edrych ar hyn a neud rhywbeth ambyti fe."
Wynebu'r broblem
Ymunodd Lon, sy'n byw yn Neiniolen, â chlwb colli pwysau wyth milltir i ffwrdd ym Mangor - gan nad oedd hi'n adnabod neb oedd yn mynd yno.
"'Ro'n i'n 'nabod pobl oedd yn mynd i rai o'r grwpiau eraill lleol," meddai. "O'n i mor embarrassed mor fawr o'n i wedi mynd ond o edrych nôl, fi'n gweld bod hynna mor sili achos mae pawb mor gefnogol."
Colli tair stôn oedd y nod ond erbyn hyn mae hi wedi colli saith.
"Rwy'n codi'n het i bobl sy'n dod i'r grŵp ac yn colli pwys neu hanner pwys yr wythnos," meddai Lon. "On i'n lwcus mod i wedi colli'n gyflym ar y dechre achos ro'dd ny'n cadw fi i fynd.
"Wedi gweud 'ny, nes i roi pwyse mla'n yn fy nhrydydd wythnos heb ddim rheswm o gwbwl ac o'n i'n rili ypset. Nes i bron rhoi lan bryd 'ny."
Gwyn yn ymuno
Roedd Gwyn, gŵr Lon hefyd yn awyddus i golli pwysau.
Wrth iddo fwyta yr un bwydydd â Lon, dechreuodd wneud hynny'n naturiol cyn ymaelodi â'r grŵp yn ddiweddarach.
"Ti angen ysbrydoliaeth a pan ma' petha'n mynd yn anodd ti'n gallu cael syniadau pobl eraill i weld sut i ddod dros petha'," meddai Gwyn.
"Oedd 'na dri dyn arall yna yn barod ac o'dd o'n neis gweld lle basa chdi'n gallu bod.'"
Erbyn hyn mae Gwyn wedi colli chwech stôn.
Bwyta yr un bwydwydd, ond llai o bethau melys
Lon sy'n tueddu i goginio ac mae defnyddio Instagram wedi ei helpu hi ar ei thaith.
"Ar ddiwrnod arferol, ni'n ca'l bacwn, wy, tomato a madarch i frecwast," meddai. "Mae hwnna yn cadw fi fynd ac yn llanw fi.
"Salad a ham a iogwrt a ffrwythe i ginio a sdim dal beth i swper. Byrgyr, chips cartre neu falle cinio dydd Sul.
"Ni'n tueddu i fwyta run pethe ag o'n i'n fwyta o'r blaen. Y ffordd fi'n cwcan bwyd sydd wedi newid felly sai'n gweld ishe dim byd.
"'Ni'n dal ffili cael pethe melys yn y tŷ, dim hyd yn oed i Gwenllian. Mae rheswm bod ni wedi cyrraedd y seis nethon ni.
"Fi'n rhoi llunie o beth fi'n bwyta ar Instagram. Mae'n ffordd dda i gadw llygad ar bethe. Rhywbeth i fi oedd e i fod ond mae dros fil o bobol yn fy nilyn i erbyn hyn.
"Mae'r gefnogaeth yn helpu ac mae'n ffordd i rannu syniadau, yn enwedig pethe melys.
"Sneb yn gofyn i fi shwt i wneud Cottage Pie, maen nhw'n gofyn i fi shwt mae neud fake sweets neu ffrwythe wedi' rhewi!"
Dechrau symud
O'r cychwyn cyntaf, mae rhedeg wedi helpu Gwyn i golli pwysau.
"Ar y dechra', roedd rhedeg 60 eiliad yn strygl heb fynd mas o wynt. Fedra i redeg dros awr nawr heb stopio, heb feddwl amdano fo a mwynhau o hefyd. Fydda i'n rhedag hanner marathon Caerdydd ym mis Hydref."
Erbyn hyn, mae Lon wedi dechrau rhedeg hefyd ac mae'r ddau'n ymuno â rhedwyr eraill mewn Parkrun bob bore Sadwrn.
"Gerddes i e tro cynta' ond hyd yn oed os ti'n cerdded e, ti dal yn gallu gweud bo ti di neud 5k ar fore Sadwrn," meddai Lon. "A ti byth yn mynd i fod ddiwetha' - 'na beth sy'n lyfli amdano fe."
Beth nesa?
Mae Lon yn gobeithio cyrraedd ei BMI iach swyddogol erbyn y Nadolig ac wedi bod yn prynu dillad newydd:
"Fi wedi mynd lawr saith seis trowser a chwe seis top, ond fi'n dal i godi dilledyn lan mewn siop a meddwl, neith hwnna ddim ffito fi, ond mae e. Mae'n cymryd amser i dy frên di ddala lan.
"Mae na stigma yn erbyn pobol dew. Os fydda i'n mynd at y doctor nawr, maen nhw'n edrych ar y broblem yn lle beio fy mhwyse i."
Dywed Gwyn ei bod yn llawer haws i chwarae gyda'i ferch fach erbyn hyn:
"Dwi'n mwy na gallu cadw fyny efo Gwenllian rŵan ac mae ni'n rhedeg a chadw'n ffit yn rhoi neges dda iddi hi hefyd."
Neges Lon i unrhyw un sy'n awyddus i golli pwysau yw "Os alla i neud e, gall unrhyw un!"
Hefyd o ddiddordeb: