Dynes wedi marw ar ôl gadael tacsi wedi ffrae

  • Cyhoeddwyd
Vanessa Collins-SmithFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Vanessa Collins-Smith ar 20 Chwefror

Clywodd cwest fod dynes wedi cael ei lladd ychydig funudau ar ôl cerdded allan o dacsi yn dilyn ffrae gyda'r gyrrwr.

Roedd Vanessa Collins-Smith, 25 oed, wedi gwrthod gwisgo gwregys diogelwch yng nghefn y tacsi.

Aeth allan o'r cerbyd ar ffordd dywyll, ac fe gafodd ei tharo gan gar arall oedd yn pasio.

Mewn dyfarniad naratif, dywedodd y crwner iddi farw o anafiadau difrifol a niferus mewn damwain ffordd.

Dywedodd gyrrwr y tacsi mewn tystiolaeth ysgrifenedig ei fod wedi gofyn i Ms Collins-Smith wisgo'r gwregys sawl gwaith.

"Roedd larwm y car yn seinio, ond y mwyaf o'n i'n gofyn, y mwyaf oedd hi'n dadlau'n ffyrnig," meddai.

Dim modd ei hosgoi

Gadawodd Ms Collins-Smith y cerbyd ar ffordd dywyll ger Hwlffordd, Sir Benfro am oddeutu 23:00 ar 20 Chwefror eleni.

Y tro diwethaf iddi gael ei gweld roedd wedi gwisgo mewn du ac yn dal potel o Prosecco ar yr A4076.

Llwyddodd dau gar ei hosgoi cyn iddi gael ei tharo gan Land Rover a'i lladd yn syth.

Clywodd y cwest fod pafin wrth ochr y ffordd, ond nad oedd Ms Collins-Smith wedi sylweddoli hynny, a dywedodd yr heddlu nad oedd modd i'r gyrrwr fod wedi ei gweld na'i hosgoi.

Roedd Vanessa Collins-Smith wedi dechrau hyfforddi fel nyrs ar ôl gweithio fel gofalwraig mewn cartref ers gadael yr ysgol.

Wedi'r gwrandawiad, dywedodd ei mam Marie Collins-Smith: "Roedd yn ferch garedig a byrlymog ac yn cael ei charu gan y bobl yr oedd yn gofalu amdanyn nhw yn y cartref.

"Doedd hi erioed wedi gwrthwynebu gwisgo gwregys diogelwch o'r blaen. Dydyn ni ddim yn gwybod beth i feddwl o hyn."