Dyfodol ansicr i eco-gymuned Brithdir Mawr ger Trefdraeth
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion eco-gymuned yng ngogledd Sir Benfro yn wynebu dyfodol ansicr ar ôl cael gwybod na fyddan nhw'n medru adnewyddu'r les ar gyfer y tir ble maen nhw'n byw.
Mae preswylwyr Brithdir Mawr, sydd yn cwmpasu 80 erw o dir, nawr yn ceisio codi £1m o bunnau er mwyn prynu'r tir a'r adeiladau er mwyn cael aros yno.
Mae 10 o oedolion a saith o blant yn byw yno'n barhaol.
Cafodd cymuned Brithdir Mawr ger Trefdraeth ei sefydlu ym 1993 gan Julian ac Emma Orbach, ond fe godwyd nifer o'r adeiladau heb ganiatâd cynllunio.
Fe ddaeth y gymuned fechan ar lethrau Carn Ingli i sylw'r byd ym 1998, pan welwyd yr adeiladau o'r awyr gan yr awdurdodau.
Fe ymladdodd y gymuned sawl brwydr gyfreithiol er mwyn cadw nifer o'r adeiladau, gan gynnwys Tŷ Crwn a godwyd gan Tony Wrench.
Pan ddaeth perthynas Emma a Julian Orbach i ben cafodd Brithdir Mawr ei rannu - mae'r ffermdy a rhyw 80 erw yn parhau ym meddiant Mr Orbach.
Angen codi £1m
Nod y gymuned yw byw mewn ffordd sydd yn gynaliadwy ac sydd yn cael ychydig iawn o effaith ar yr amgylchedd.
Mae'r tir yn cael ei ffermio mewn ffordd organig, ac mae'r gymuned yn creu ei thrydan ei hun, gan ddefnyddio dŵr a choed o'r safle.
Arweiniodd y datblygiadau ym Mrithdir Mawr at greu polisi Un Blaned Llywodraeth Cymru, dolen allanol.
Mae'r gymuned nawr yn ceisio codi £1m o bunnau trwy werthu cyfranddaliadau a chreu cymdeithas budd cymunedol ar gyfer y tir.
Mae Lea Trainer wedi byw ym Mrithdir Mawr ers tri mis, ac mae'n un o arweinwyr yr ymgyrch i godi'r arian. Dywedodd: "Rydym ni'n diolch i Emma a Julian am beth wnaethon nhw ugain mlynedd yn ôl. Mae'r landlord, Julian, wedi penderfynu gwerthu. Ond y peth da yw ei fod e eisiau gwerthu i ni.
"Y cwestiwn yw, sut ydyn ni yn mynd i godi'r arian? Ry'n ni wedi edrych ar nifer o opsiynau, ac ry'ni ni wedi darganfod gyda chymorth Co-op Cymru ac ymgynghorwyr eraill, gynllun i gynnig cyfranddaliadau cymunedol. Fe all pobl gyfrannu'n lleol neu'n fyd-eang."
Gwerthu i'r gymuned
Yn ôl Nick Ward, sydd wedi byw ym Mrithdir Mawr ers tair blynedd, mae'r ffordd gymunedol o fyw yn cynnig un ateb i broblemau newid hinsawdd.
"Rwy' yn meddwl bod byw fel un cymuned," meddai, "yn un ateb i leihau faint o adnoddau ry'n ni yn defnyddio. Mae'n un ffordd i fyw yn fwy ysgafn. Ry'n ni'n tyfu bwyd ffres sydd ddim yn gadael unrhyw ôl-troed carbon."
Dywedodd perchennog y tir, Julian Orbach, wrth BBC Cymru, bod y les ar gyfer Brithdir Mawr yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn, ond ei fod e'n "awyddus iawn i'r gymuned" brynu'r adeiladau a'r tir.
"Rwy' wedi bod eisiau i'r gymuned brynu Brithdir Mawr ers 10 mlynedd. Dyna'r ffordd orau i bethau barhau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2015
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2014