130 o swyddi hawlio iawndal PPI i ddiflannu yn Nhorfaen

  • Cyhoeddwyd
Logo We Fight Any ClaimFfynhonnell y llun, We Fight Any Claim

Mae cwmni yn Nhorfaen sydd wedi helpu pobl i hawlio iawndal Yswiriant Gwarchod Taliadau (PPI) dros y 10 mlynedd diwethaf yn dweud y bydd tua 130 o swyddi yn diflannu.

Dywed rheolwyr We Fight Any Claim (WFAC) bod dim digon o gyfleoedd gwaith ar gyfer y gweithlu presennol yng Nghwmbrân nawr bod y cyfnod ceisio am iawndal wedi dod i ben.

29 Awst oedd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau.

Mae'r cwmni wedi dechrau cyfnod ymgynghorol ac yn gobeithio sicrhau cyn lleied o ddiswyddiadau gorfodol â phosib.

Cwmni cysylltiedig, We Plan Group, oedd yn cyflenwi staff ac adnoddau i WFAC ac mae hefyd yn cynnig gwasanaethau cynllunio ariannol a gwasanaethau cyfreithiol.

'Tu hwnt i'n rheolaeth'

Mewn datganiad dywed rheolwyr bod We Plan Group "wedi bod yn gweithio'n galed" i ddatblygu gwasanaethau er mwyn creu cyfleoedd gwaith newydd.

Maen nhw'n dweud bod yna waith o hyd o ran "prosesu'r nifer sylweddol o geisiadau" oedd wedi eu cofnodi gyda WFAC cyn y dyddiau cau, ond bydd y llwyth gwaith hwnnw ynghyd â chyfleoedd gwaith eraill "yn anffodus ddim yn creu digon o waith ar gyfer yr holl weithwyr" wrth edrych ymlaen at y dyfodol agos.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Swyddfa We Fight Any Claim yng Nghwmbrân

"Nid dyma yw ein dymuniad ond mae tu hwnt i'n rheolaeth," meddai prif weithredwr WE Plan Group, Richard Thomas.

"Rydym yn dechrau ymgynghori gyda staff sydd mewn perygl o golli eu swyddi ac yn gobeithio cael cyn lleied o ddiswyddiadau gorfodol â phosib.

Ychwanegodd eu bod am geisio sicrhau swyddi eraill ar gyfer cymaint o'r staff â phosib naill ai o fewn y cwmni neu o fewn sector canolfannau galw de Cymru.

Dywed WFAC eu bod wedi helpu dros 200,000 o bobl gael bron i £600m mewn iawndal PPI yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, a denu "miliynau o bunnau" i economi de Cymru, ond bod diwedd y cynllun iawndal PPI "yn mynd i gael effaith anferthol ar y busnes".

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod "wedi gohirio'r dyddiad cau PPI trwy gymryd camau cyfreithiol yn erbyn gosod terfyn amser... ond wedi methu â chael gwared ar y terfyn amser yn gyfan gwbwl".