380 i golli eu gwaith wrth i Tata gau safle dur trydanol

  • Cyhoeddwyd
Cogent

Mae Tata Steel yn bwriadu cau ei waith dur trydanol yng Nghasnewydd gan roi swyddi 380 o weithwyr yn y fantol.

Roedd safle Orb Electrical Steels ymhlith pump o safloedd yr is-gwmni Cogent Electrical Steels a gafodd eu rhoi ar werth fis Mai y llynedd wedi penderfyniad Tata i ganolbwyntio ar y busnes craidd o gynhyrchu ar gyfer y diwydiannau ceir, adeiladu, peirianneg a phecynnu.

Dywedodd rheolwyr mewn datganiad ddydd Llun bod cwmni o Japan wedi cytuno i brynu eu busnesau yng Nghanada, a'u bod wedi penderfynu parhau â'r busnesau yn Sweden.

Ond er iddyn nhw "ymchwilio i'r holl opsiynau" mae'r datganiad yn dweud eu bod "wedi methu â chanfod ffordd ymlaen yn achos Orb Electrical Steels ac felly yn cynnig cau'r safle, gyda cholled potensial o hyd at 380 o swyddi".

Mae'r safle'n cynhyrchu math arbennig o ddur sy'n cael ei ddefnyddio mewn moduron a thrawsnewidwyr i alluogi cludo trydan mewn un cyfeiriad yn hytrach na dau.

Roedd undebau wedi mynegi pryder cynyddol ynghylch dyfodol y safle ers cyhoeddiad y llynedd bod Tata yn ceisio dod o hyd i brynwr.

Penderfyniad 'angenrheidiol'

"Bydd cynnig heddiw yn newyddion trist i gydweithwyr yn Orb yn ne Cymru," meddai Henrik Adam, Prif Weithredwr Tata Steel yn Ewrop.

Dywedodd bod y cam "yn angenrheidiol" i ganolbwyntio adnoddau a buddsoddi yn eu "busnes a marchnadoedd craidd" gan helpu sicrhau "dyfodol hirdymor, cynaliadwy yn Ewrop".

Dywed y cwmni fod Orb Electrical Steels yn gwneud colled "ers nifer o flynyddoedd ac yn brwydro i gystadlu mewn marchnad sy'n symud yn gyflym".

Byddai addasu'r safle er mwyn ateb galw cwsmeriaid "yn costio dros £50m", medd rheolwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Byddai'n costio gormod i uwchraddio'r safle i'w wneud yn gynaliadwy, medd rheolwyr

"Mae parhau i gyllido colledion sylweddol Orb Electrical Steels yn anghynaladwy pan fo'r diwydiant dur Ewropeaidd yn wynebu heriau sylweddol," meddai Mr Adam. "Doedden ni'n gweld dim arwyddion y byddai Orb yn gwneud elw yn y blynyddoedd i ddod.

"Rwy'n cydnabod pa mor anodd fydd y newyddion yma o bawb sy'n cael eu heffeithio a byddem yn gweithio'n galed i'w cefnogi."

Dywed y cwmni y bydd yn ceisio cynnig cyfleoedd "ble mae'n bosib" i'r rhai sy'n colli eu swyddi i symud i safleoedd eraill.

Mae Tata hefyd yn bwriadu cau safle yn Wolverhampton sy'n cyflogi 26 o bobl.

Newyddion 'brawychus'

Mae cynrychiolwyr undeb wedi beirniadu'r penderfyniad yn hallt gan ddweud eu bod yn "ystyried pob opsiwn, gan gynnwys gweithredu diwydiannol".

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol undeb Community, Roy Rickhuss ei fod yn "newyddion brawychus" sy'n tanseilio'u dealltwriaeth gyda Tata ynghylch diogelu swyddi.

"Does dim ymgynghori wedi bod ynghylch y cynnig yma ar lefel Brydeinig nag Ewropeaidd a dylai rheolwyr deimlo cywilydd dros y ffordd y mae hyn wedi digwydd," meddai.

Mae hefyd "yn galw ar y llywodraeth i ymyrryd" gan fod "gweinidogion â rhan mewn sicrhau addewidion gan Tata dros ddyfodol y busnes".

"Mewn cyfnod pan fo'r llywodraeth eisiau datgarboneiddio'r economi a chefnogi newid i gerbydau trydanol, byddai colli'r unig gynhyrchydd dur trydanol trwy'r DU yn gamgymeriad difrifol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae AS Llafur Dwyrain Casnewydd, Jessica Morden yn galw ar lywodraethau Cymru a'r DU i helpu'r gweithwyr sy'n colli eu swyddi

Dywedodd AS Llafur Dwyrain Casnewydd, Jessica Morden bod y penderfyniad yn un "ddinistriol" gan effeithio ar waith dur "sy'n galon i gymuned Casnewydd ers 1898".

"Mae'n hollol annerbyniol mai trwy adroddiadau papur newydd dros y penwythnos y daeth llawer i glywed am hyn," meddai. "Gyda gweledigaeth a chefnogaeth y llywodraeth, galle [safle Orb] fod yn rhan allweddol o'r gadwyn gyflenwi ar gyfer cerbydau trydanol.

"Mae hwn yn fusnes strategol bwysig... fyddai'n cysylltu â gweinidogion llywodraethau'r DU a Chymru yn erfyn arnyn nhw i wneud popeth posib i helpu."