Gofyn am help i daclo problemau gwrthgymdeithasol Bangor
- Cyhoeddwyd
Mae 'na bryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad, ond rŵan mae un ardal yng ngogledd Cymru yn edrych ar ffordd wahanol i daclo'r sefyllfa.
Gyda dros 1,100 o achosion wedi'u cofnodi ym Mangor yn y flwyddyn ddiwetha', digon yw digon meddai rhai o'r busnesau, sydd wedi gofyn am help arbenigwr ymddygiad i geisio gwella pethau.
Mae'r heddlu hefyd wedi gofyn am bwerau ychwanegol i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau cyffuriau.
Mae nifer o ffenestri siopau'r ddinas wedi'u torri ac mae 'na honiadau bod pobl yn dwyn arian ger peiriannau twll yn y wal.
Fis diwetha' cafodd dau ddyn eu carcharu am ddwyn arian gan berfformiwr stryd dall ym Mangor.
Yn ôl Enid Parry, sy'n cynrychioli'r stryd fawr ar gyngor y ddinas ac sy'n gyn-aelod o fwrdd Ardal Gwella Busnes Bangor, mae angen gwneud rhywbeth ar frys i daclo'r problemau gwrthgymdeithasol.
"Mae'n rhaid i ni sbïo ar y darlun mawr, sut 'da ni'n mynd i daclo fo," meddai.
"Mae o'n effeithio ar fusnesau a phobl sy'n dod i'r stryd - maen nhw'n teimlo bod Bangor yn mynd ar i lawr."
Mae'r pryderon wedi arwain rhai o fusnesau'r ddinas i ofyn am help gan arbenigwr ymddygiad i geisio dod at wraidd pam bod rhai unigolion yn dewis gweithredu'n wrthgymdeithasol.
Mae'r Cynghorydd Catrin Wager, sy'n cynrychioli ward Menai ym Mangor ar Gyngor Gwynedd, yn credu bod angen cydbwysedd wrth geisio taclo'r problemau gwrthgymdeithasol.
"Faswn i'n deud bod y problemau ma' Bangor yn wynebu'n eitha' tebyg i'r problemau ma' lot o ddinasoedd eraill yn eu cael," meddai.
"Mae 'na dwf trist iawn wedi bod mewn digartrefedd, mewn defnydd cyffuriau a phroblemau gwrthgymdeithasol.
"Dydy rhywun ddim eisiau bod yn rhy llym ar bobl fregus ond 'da ni hefyd eisiau sicrhau bod y stryd fawr yn lle braf i ymweld ag o ac yn cefnogi'r busnesau - y pleser ma' pobl yn ei gael o'r ddinas pan maen nhw'n dod yma.
"O ran y syniad o gael arbenigwr ymddygiad, mae bob dim yn werth ei drio'n dydy. Ma' sicrhau'n bod ni'n gweithio efo pobl sy'n wynebu amser caled iawn yn arbennig o bwysig."
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru roedd 'na 1,135 o ddigwyddiadau troseddol neu wrthgymdeithasol wedi'u cofnodi ym Mangor rhwng Ebrill y llynedd a mis Mehefin eleni - ond mae 'na gydweithio positif wedi bod, medden nhw, i wella pethau.
Dywedodd yr Arolygydd Jon Aspinall: "Rydyn ni'n cydweithio'n agos gyda phartneriaid i hyrwyddo cyfleoedd i wella pethau ymhellach ac rydyn ni'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth 'da ni'n cael gan y gymuned leol.
"Mae'n bwysig bod unrhyw bryderon yn cael eu taclo ar y cyd ag asiantaethau eraill i gael y canlyniadau gorau posib i'r gymuned ac mae cefnogi'r cyngor gyda'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus newydd yn enghraifft o hynny."
Mae'r gorchymyn presennol yn caniatáu plismyn i gymryd alcohol oddi ar unigolion neu eu harestio.
Ond mae swyddogion yn galw am fwy o bwerau i daclo ystod ehangach o broblemau gwrthgymdeithasol a chyffuriau.
Bydd ymgynghoriad ar y pwerau ychwanegol yn dod i ben ddydd Gwener, a chabinet Cyngor Gwynedd yn trafod y casgliadau ddiwedd y mis.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Awst 2019
- Cyhoeddwyd13 Awst 2019
- Cyhoeddwyd15 Awst 2019