Menyw, 73, wedi taro a lladd ffrind mewn maes parcio

  • Cyhoeddwyd
Barbara Calligan (canol)Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Barbara Calligan (canol) ei disgrifio gan ei theulu fel person "anhunanol, hwyliog a llachar"

Bu farw menyw ar ôl cael ei tharo a'i llusgo o dan gar ei ffrind wrth adael maes parcio, clywodd llys ddydd Mawrth.

Fe gollodd Carol White, 73, reolaeth ar ei char wrth i'w ffrind, Barbara Calligan, 62, ei thywys allan o le parcio ar ôl i'r ddwy fod mewn gwers celf yn Y Fenni gyda'i gilydd.

Cafodd Ms Calligan - a oedd wedi ymddeol fel prif athrawes - ei llusgo o dan gar Ms White a bu farw o'i hanafiadau wedi'r digwyddiad ym mis Mawrth eleni.

Clywodd y llys fod cigydd lleol, Gareth Beaven yn dyst i'r digwyddiad, a hynny ar ôl iddo ddweud wrth gwsmer: "Gwylia mas mae hi'n yrrwr gwael."

'Di-emosiwn'

Dywedodd Jason Howells ar ran yr erlyniad: "Dywedodd Mr Beaven iddo glywed injan yn troi cyn i'r Subaru fynd i fyny'r wal dwy droedfedd gyda dwy olwyn ar y wal.

"Yna clywodd yr injan yn 'refio' eto cyn i'r car saethu ymlaen gan daro Mrs Calligan a'i llusgo o dan y car.

"Dywedodd Mr Beaven fod wyneb White yn ddifynegiant ac yn ddi-emosiwn."

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Carol White ddedfryd o garchar wedi'i ohirio

Disgrifiodd teulu Mrs Calligan hi fel person "anhunanol, hwyliog a llachar, yn mwynhau ei bywyd".

Mewn datganiad emosiynol a ddarllenwyd i'r llys, dywedodd ei mab Andrew Calligan: "Rwy'n ei chael yn anodd dod i delerau â cholli fy mam.

"Gwnaeth fy mam i mi deimlo na fyddai unrhyw beth drwg yn digwydd ond mae'r digwyddiad hwn wedi fy ngadael mewn cythrwfl.

"Y cyfan sydd gen i nawr yw lle tlws yn iard yr eglwys lle gallaf eistedd gyda hi."

'Arwyddion o ddementia'

Cyfaddefodd Jeff Jones, wrth amddiffyn, fod gyrru White yn "rhyfedd" ac yn "eithriadol".

Ychwanegodd fod arwyddion cynnar o ddementia yn "debygol o fod wedi cyfrannu at y drosedd".

"Fe ildiodd ei thrwydded yrru ddyddiau ar ôl y digwyddiad ac mae ganddi edifeirwch a gofid mawr am yr hyn sydd wedi digwydd," meddai.

Cyfaddefodd White, o Bandy, Sir Fynwy, iddi achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Cafodd ddedfryd o garchar am 16 mis, wedi'i gohirio am flwyddyn.

Dywedodd Cofiadur Caerdydd Eleri Rees QC: "O edrych yn ôl, mae'n bosib iawn eich bod wedi dod i'r casgliad na ddylech fod wedi bod yn gyrru o gwbl."