Tri o Gymru ar restr anrhydeddau Theresa May

  • Cyhoeddwyd
Debbie Wilcox, Byron Davies a Ruth Hunt
Disgrifiad o’r llun,

Debbie Wilcox, Byron Davies a Ruth Hunt yw'r tri o Gymru sydd wedi'u hanrhydeddu

Bydd cyn-AS Ceidwadol, arweinydd Llafur presennol Cyngor Casnewydd a chyn-bennaeth Stonewall yn cael eu gwahodd i Dŷ'r Arglwyddi ar ôl cael eu cynnwys yn anrhydeddau ymddeol Theresa May.

Mae Byron Davies, cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn un o'r rhai sydd wedi cael ei enwebu gan Ms May.

Cafodd Debbie Wilcox, sydd hefyd yn arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ei henwebu gan arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn.

Mae cyn-brif weithredwr elusen Stonewall, Ruth Hunt, o Gaerdydd, hefyd wedi'i gwahodd i fod yn arglwyddes.

Daw'r anrhydeddau diweddaraf yn dilyn ymddiswyddiad Ms May yn yr haf.

Gwobrwyo 'ffrindiau Rhif 10'

Mae ei henwebiadau'n cynnwys tri chyn-aelod o'i staff - Gavin Barwell, Nick Timothy a Fiona Hill.

Mae'r Blaid Lafur wedi beirniadu anrhydeddau Ms May am wobrwyo "rhoddwyr mawr Torïaidd a ffrindiau Rhif 10".

Fe wnaeth Mr Davies golli ei sedd yng Ngŵyr yn etholiad cyffredinol 2017, a chyn hynny bu'n Aelod Cynulliad dros ranbarth Gorllewin De Cymru.

Mae Ms Wilcox wedi bod yn gynghorydd ers 2004 ac yn arweinydd ar Gyngor Casnewydd ers 2016.

Fe wnaeth Ms Hunt adael ei rôl fel prif weithredwr elusen LHDT+ Stonewall fis diwethaf yn dilyn 14 mlynedd gyda'r corff a phum mlynedd fel ei bennaeth.