Y Cymro dall a'i freuddwyd rygbi yn Japan
- Cyhoeddwyd
"Mae colli fy ngolwg yn gyfle i wthio'r ffiniau a gwneud pethau newydd. Mae wedi helpu fi i sylweddoli pa mor lwcus ydw i gyda phopeth sy' gen i."
Bydd Gareth Davies, sy' wedi ei gofrestru'n ddall, yn sicr yn chwalu ei ffiniau personol drwy chwarae rygbi yng ngŵyl Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan eleni.
Mae'r Cymro o Gaerdydd wedi ei ddewis i chwarae i dîm â nam golwg y Deyrnas Unedig, sgwad o chwaraewyr sy' â nam golwg difrifol neu sy' wedi eu cofrestru'n ddall.
Teimlad o gyffro
Gareth yw'r unig chwaraewr o Gymru yn y sgwad. Dywedodd y mewnwr, sy' wedi chwarae rygbi ers ei blentyndod, ei fod yn gyffrous i gael cyfle i chwarae rygbi ar lwyfan y byd: "Cyn gynted ag y bydda'i yno, byddai'n teimlo'n falch iawn. Mae'n deimlad rhyfedd o gyffro ond dyw e ddim yn teimlo'n real eto."
Bydd y tîm yn teithio i Japan ym mis Hydref i wynebu timau eraill o chwaraewyr â nam golwg, gan gynnwys Japan.
Dywedodd Gareth: "Touch Rugby yw'r gêm ac mae'n debyg i gêm Sevens. Mae'n heriol yn gorfforol mewn ffordd wahanol i rygbi traddodiadol gyda lot mwy o sbrintio.
"Mae gennym lawer o symudiadau penodol yn barod i'w defnyddio ar y cae a gobeithio mai ein ffitrwydd fydd yr allwedd i lwyddiant. Yn anffodus does dim taclo, sy'n drueni achos o'n i wrth fy modd yn taclo.
Gêm swnllyd
"Yr her pennaf yw gwybod ble mae'ch cyd-chwaraewyr ar y cae a bod yn ymwybodol o ble mae'r tîm arall hefyd. Rydym yn delio â hynny drwy gyfathrebu lot mwy. Mae'n gêm swnllyd gan ein bod ni'n gweiddi trwy'r amser ac mae'r bêl yn gwneud sŵn.
"Mae'r dyfarnwr yn allweddol hefyd. Ond dyw'r dyfarnwr ddim yn rhybuddio chwaraewyr os ydyn nhw ar fin gwrthdaro felly mae damweiniau'n digwydd wrth i chi redeg ar gyflymder. Mae'n rhan o'r gêm."
Golwg yn dirywio
Cafodd Gareth, sy'n gweithio i RNIB Cymru, ddiagnosis o retinitis pigmentosa yn ei arddegau.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ei olwg wedi dirywio'n ddifrifol ac mae wedi'i gofrestru'n ddall erbyn hyn.
Dywedodd: "Rydych chi'n mynd trwy gyfnod isel ar ôl cael eich cofrestru'n ddall gan ei fod yn gymaint o sioc. Ar ôl i fi dderbyn y peth, dw i wedi ei droi'n beth cadarnhaol ac yn gweld colli fy ngolwg fel cyfle i wneud pethau fel hyn - i wthio'r ffiniau a gwneud pethau newydd. Efallai bydd fy ngolwg yn mynd yn llwyr rhyw bryd - gallai fod yfory neu 15 mlynedd i ffwrdd.
"Mae'n gic i fyny'r pen-ôl, i wneud a chyflawni pethau, a sylweddoli pa mor lwcus ydw i gyda phopeth sy' gen i.
"Mae pawb yn ystyried bod yn gallu gweld fel peth corfforol - ond i fi, mae'n feddylfryd, ac mae gen i olwg gwell na llawer o bobl oherwydd bod fi'n bositif, yn proactive ac yn wydn."
Gobeithion
Mae Gareth yn chwarae rygbi i'r Cardiff Chiefs, tîm rygbi gallu cymysg a sefydlwyd llynedd gyda chefnogaeth Undeb Rygbi Cymru a chlwb rygbi Llandaf.
Dywedodd Gareth: "Y syniad yw bod rygbi i bobl â nam golwg yn tyfu ac yn datblygu. Mae'r Gleision yn sefydlu tîm i bobl â nam golwg yng Nghymru a byddant yn cefnogi'r tîm newydd - cawsom ddiwrnod gyda nhw ychydig wythnosau yn ôl ac maen nhw'n awyddus ac yn gefnogol iawn i sefydlu tîm."
"Y syniad yw i ail-gysylltu pobl sy'n colli eu golwg gyda rygbi. Mae ymarfer corff yn gwella'ch hunan-barch ac yn helpu gyda iechyd meddwl.
"Dw i eisiau i dimau rygbi yng Nghymru ddod yn ymwybodol o rygbi i bobl â nam golwg a rhoi cynnig ar sefydlu timoedd.
"Gadewch i ni sefydlu tîm o Gymru er mwyn i ni allu curo Lloegr."