Cynllun i droi synagog yn ganolfan treftadaeth Iddewig
- Cyhoeddwyd
Mae'r Sefydliad Treftadaeth Iddewig wedi prynu hen Synagog Merthyr Tudful gyda'r bwriad o'i droi'n ganolfan ddiwylliannol sy'n dathlu treftadaeth Iddewig Cymru.
Cafodd y synagog - yr un hynaf sy'n dal i sefyll yng Nghymru - ei godi yn 1872 ac mae'n cael ei hystyried yn un o'r rhai pwysicaf drwy'r DU o ran ei bensaernïaeth.
Ond fe ddaeth cymuned Iddewig y dref i ben yn 1983 pan werthwyd y synagog, ac mae cyflwr yr adeilad rhestredig Gradd II - sy'n wag ers 2006 - wedi dirywio'n raddol.
Mae'r sefydliad sydd bellach yn berchen ar yr adeilad yn chwilio am gyllid nawr er mwyn adfer yr adeilad a sicrhau "rhan arwyddocaol" unwaith yn rhagor ym mywyd diwylliannol Merthyr Tudful.
Aethon nhw ati i brynu'r adeilad wedi i asesiad ddangos bod yna sail gynaliadwy a chefnogaeth i'r syniad o sefydlu canolfan ddiwylliannol newydd yn y dref, a fyddai hefyd yn cyflwyno 250 o flynyddoedd a mwy o hanes y gymuned Iddewig yng Nghymru.
Dywed y sefydliad eu bod yn falch o allu prynu'r hen synagog a bod angen gwaith cynnal a chadw brys gan fod yr adeilad "mewn cyflwr gwael iawn ar hyn o bryd".
Maen nhw'n gweithio'n agos â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac yn bwriadu cyflwyno cais i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am nawdd.
'Hanes unigryw'
"Mae'r adeilad yn safle hanesyddol cenedlaethol cydnabyddedig yr ydym eisiau ei ddefnyddio i gyflwyno hanes cenedlaethol unigryw am y gymuned Iddewig yng Nghymru," meddai Michael Mail, prif weithredwr y Sefydliad Treftadaeth Iddewig.
"Trwy adfer yr adeilad, rydym am iddo unwaith yn rhagor chwarae rhan arwyddocaol ym mywyd Merthyr."
Ychwanegodd y sefydliad eu bod am i'r cynllun "hybu sgwrsio rhwng gwahanol ddiwylliannau... a dod â buddion cymdeithasol ac economaidd ehangach, sydd mor bwysig mewn lle fel Merthyr".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2017