'Cynnig hostel' i ddynes, 82, wedi gorlifiad carthion

  • Cyhoeddwyd
Ystafell ymolchiFfynhonnell y llun, Shasta Farah
Disgrifiad o’r llun,

"Roedd carthion ym mhobman," yn ôl Shasta Farah

Mae wyres dynes 82 oed wedi beirniadu cyngor am gynnig ystafell iddyn nhw mewn hostel ar ôl i'w fflat gael ei gorlifo gan garthffosiaeth.

Daeth dŵr budr trwy'r toiled yn fflat Janet McCue yn Nhrebiwt, Caerdydd, ddwywaith ddydd Iau.

Mae'r fflat 12fed llawr wedi ei haddasu gan fod Ms McCue yn defnyddio cadair olwyn.

Ond dywedodd Shasta Farah, 35, sy'n byw gyda'i mam-gu, bod cais i gael aros mewn gwesty wedi'i wrthod gan yr awdurdod.

Dywedodd Cyngor Caerdydd fod llety amgen addas yn cael ei gynnig mewn achosion o'r fath.

'Annerbyniol'

"Roedd carthion ym mhobman," meddai Ms Farah. "Dywedodd y cyngor y gallen nhw fy rhoi i a fy nan mewn hostel.

"Mae fy nan yn anabl. Does gennym ni ddim teulu na ffrindiau gyda lle i ni. Mae'n annerbyniol."

Dywedodd Ms Farah fod y dŵr wedi dod o'r system bibellau sy'n rhedeg trwy'r bloc o fflatiau.

Dywedodd y cyngor fod y system bellach wedi'i "thrwsio'n llawn" a bod glanhawyr wedi aros ar y safle.

Ychwanegodd llefarydd: "Bydd swyddogion wrth law i drafod yr opsiynau hyn gyda thenantiaid yn y bore."