Mwy o ymosodiadau ar staff ambiwlans yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae ymosodiadau ar staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi codi i bron i 100 mewn cyfnod o dri mis eleni er gwaethaf deddfau newydd.
Yn 2017, 70 oedd nifer yr ymosodiadau pob tri mis ar gyfartaledd.
Mae yna ofnau bod nifer yr ymosodiadau yn uwch wrth i lawer beidio adrodd digwyddiadau.
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, gwleidyddion ac undebau yn dweud eu bod yn "bryderus iawn" am y cynnydd a bod angen gwneud mwy i warchod y rhai sy'n cael eu hanfon gyntaf at gleifion.
Un o'r rhai sydd wedi dioddef ymosodiad yw'r parafeddyg Jon Johnston - ymosodwyd ar Jon gan yr union ddyn yr aeth allan i'w helpu.
Mae ei arddwrn wedi torri, sy'n golygu nad yw'n gallu gweithio na hyfforddi cannoedd o wirfoddolwyr.
Roedd Jon, sy'n 31 oed, yn trin dyn anymwybodol yn gorwedd ar y stryd pan ymosodwyd arno fis diwethaf.
Dywedodd: "Tra'r oeddwn i yn ei asesu, fe dynnodd e fi i'r llawr. Fe gariais ymlaen â fy nyletswyddau ac wedyn fe ddechreuodd y boen."
Roedd Jon, sy'n dod o Abertawe, wedi torri asgwrn yn ei arddwrn ac os na fydd yn adfer nerth a symudiad yn ei law fe allai ei yrfa fod yn y fantol.
'Dim modd rhagweld'
"Dwi'n falch o fod yn barafeddyg. Rwy'n mwynhau helpu a gofalu am bobl - fel pawb arall yn y swydd. Dyna pam ein bod yn 'neud e," meddai.
"Ry'n wastad yn bryderus gan nad ydyn yn gwybod be sy' o'n blaen. Ry'n ni'n wynebu sefyllfaoedd trawmatig ac emosiynol.
"Ry'n ni'n cael hyfforddiant i ddelio â'r sefyllfa, ond does dim modd rhagweld sut mae pobl o dan ddylanwad alcohol, cyffuriau neu bobl sydd ag anghenion arbennig yn ymddwyn.
"Mae pobl yn gallu bod yn wyllt ac erbyn y diwrnod nesaf maen nhw'n gwbl wahanol a ddim yn cofio be' sydd wedi digwydd."
Yn ogystal â bod yn barafeddyg, mae Jon yn arwain rhaglen hyfforddi ar gyfer 500 o wirfoddolwyr ar draws gorllewin a chanolbarth Cymru.
Oherwydd anaf Jon mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cael eu gorfodi i ganslo cyrsiau hyfforddi i Ymatebwyr Cyntaf yn y gymuned.
Nid dyma'r tro cyntaf i rywun ymosod ar Jon - cyn hyn roedd rhywun wedi ei fwrw yn anymwybodol gan ei adael gydag anaf i'w glust.
Ers i'r mesur ar Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys gael ei basio fis Tachwedd y llynedd, mae 12 o bobl yng Nghymru wedi cael eu carcharu am ymosod ar barafeddygon ac mae 33 arall wedi cael eu cosbi.
Ond mae AS Rhondda Chris Bryant, a gyflwynodd y mesur, yn dweud y gallai mwy gael ei wneud.
"Mae e'n fy nghynddeiriogi bod pobl yn ymosod ar yr union bobl sy'n ceisio achub eu bywydau ac mae'r ymosodwyr yn gwneud gwaith staff y GIG yn anodd," meddai.
"Yn aml mae e'n ymwneud ag adnoddau neu gamerâu fideo ond mae'n rhaid i'r gyfraith eu cosbi'n llym.
"Mae ymosodiad ar y gwasanaethau brys yn ymosodiad arnom ni i gyd."
'Annerbyniol'
Alcohol a chyffuriau yw'r ffactorau sy'n bennaf gyfrifol am y trais, yn ôl ffigyrau'r Gwasanaeth Iechyd ond mae digwyddiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl ar gynnydd.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod diogelwch staff "o bwys mawr i ni" a bod trais yn "annerbyniol".
Mae Unison Cymru, undeb sy'n cynrychioli staff ambiwlans, wedi galw am ddedfrydu llym.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod staff y GIG yn haeddu cael eu trin â pharch.
"Mae unrhyw ymosodiad ar staff GIG Cymru yn gwbl annerbyniol," medd llefarydd.
"Ry'n yn gweithio gyda chyflogwyr GIG Cymru i waredu unrhyw ymosodiad corfforol neu eiriol tuag at staff."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2016