Dewis cyflwyno mesur ymosodiadau staff gwasanaethau brys
- Cyhoeddwyd

Roedd Chris Bryant wedi gofyn i bobl bleidleisio ar-lein
Bydd AS o Gymru yn cyflwyno mesur i ddelio ag ymosodiadau ar staff y gwasanaethau brys.
Cafodd Chris Bryant, sy'n cynrychioli'r Rhondda, ei ddewis ar hap i gynnig mesur aelodau preifat yn San Steffan.
Fe ofynnodd i'r cyhoedd bleidleisio ar-lein dros gyfraith newydd y buasen nhw'n hoffi'i gweld.
Cymerodd bron i 34,000 o bobl ran yn yr arolwg, gan gynnwys 483 o etholaeth Rhondda.
Bwriad y mesur fyddai cyflwyno troseddau newydd penodol ar gyfer ymosodiadau yn erbyn diffoddwyr tân, cwnstabliaid, meddygon, parafeddygon neu nyrsys.