Ymddygiad John Bercow 'weithiau'n teimlo fel bwlio'
- Cyhoeddwyd
Mae ymddygiad Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, John Bercow "weithiau'n teimlo fel bwlio", yn ôl AS o Gymru sydd eisiau ei olynu yn y rôl.
Dywedodd AS Llafur Rhondda, Chris Bryant ei fod yn "casáu pan mae'r Llefarydd yn rhoi ffrae i rywun mewn ffordd ymosodol yn ystod dadleuon seneddol".
"Mae'n ofnadwy i'r AS dan sylw ac weithiau'n teimlo fel bwlio," meddai.
Mae Mr Bercow, sy'n rhoi'r gorau iddi ar ôl 10 mlynedd yn y rôl, wedi cael cais am sylw.
Dywedodd Mr Bryant, oedd yn ddirprwy lefarydd am gyfnod yn llywodraeth Gordon Brown, ei fod yn teimlo bod ymddygiad "ymosodol" yn "neges ddrwg iawn i'r senedd roi mas".
Beirniadaeth
Mae Mr Bercow, fydd yn camu o'r neilltu ar 31 Hydref, wedi wynebu beirniadaeth gan gefnogwyr Brexit, sydd wedi cwestiynu ei ddidueddrwydd ar y mater.
Mae'r cyn-AS Ceidwadol, 56, hefyd wedi cael ei feirniadu am beidio gwneud mwy i fynd i'r afael â honiadau o fwlio yn Nhŷ'r Cyffredin.
Dau AS Llafur - Lindsay Hoyle a Harriet Harman, yr AS benywaidd sydd wedi bod yn Nhŷ'r Cyffredin hiraf - yw'r ffefrynnau i olynu Mr Bercow.
Dywedodd Mr Bryant, 57, bod ganddo gefnogaeth drawsbleidiol, a'i fod yn teimlo bod angen i'r llefarydd nesaf "siarad llai o'r sedd".
'Dyfarnwr, nid chwaraewr'
"Mae'n teimlo bod pawb wedi bod yn anwybyddu'r rheolau," meddai.
"Y ffaith fod y llywodraeth wedi diddymu'r senedd am bum wythnos a John Bercow yn bod, ar y lleiaf, yn greadigol gyda'r hyn sydd wedi cael ei adael i ddigwydd yn y siambr.
"Ond ar hyn o bryd rydyn ni angen rhywun sy'n gwbl annibynnol ac rwy'n credu bod angen Llefarydd sy'n siarad llai o'r gadair.
"Rhywun sy'n ddyfarnwr, nid yn chwaraewr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2019