Carcharu dyn am flynyddoedd o greulondeb at ei blant

  • Cyhoeddwyd
llys abertawe

Mae dyn wedi cael ei garcharu am dros chwe blynedd am greulondeb tuag at bedwar o'i blant dros gyfnod o flynyddoedd.

Roedd y dyn yn wynebu 35 o gyhuddiadau, ac fe blediodd yn euog i 13 cyhuddiad o greulondeb at blentyn o dan 16 oed a saith cyhuddiad o achosi niwed corfforol.

Clywodd Llys y Goron Abertawe y byddai'r dyn yn gyson yn gorfodi ei bedwar plentyn hynaf i sefyll yn erbyn wal gyda'u dwylo ar eu pennau gan eu dwrdio tan iddyn nhw wlychu eu hunain.

Dros gyfnod o flynyddoedd bu'n gorfodi ei blant i ymladd yn erbyn ei gilydd a chlodfori'r 'enillydd'.

Byddai hefyd yn eu chwipio ac yna'n eu gwisgo mewn dillad fyddai'n cuddio'r cleisiau.

Dywedodd mam y plant yn ei thystiolaeth fod y tad ar un achlysur wedi llusgo'u mab chwech oed ar hyd y llawr gerfydd ei glust cyn ei daro yn ei wyneb am iddo "ddeffro ei gŵr".

Yn ei datganiad dywedodd y fam fod yr effaith ar y plant yn "anferth" a'u bod wedi "colli'u plentyndod".

'Risg i'r cyhoedd'

Yn y diwedd fe wnaeth y fam adrodd ei hanes wrth aelod o staff yn ysgol y plant.

Bryd hynny fe gafodd y plant eu holi, ond ni wnaethon nhw gadarnhau'r cam-drin, ac fe gafon nhw eu gwobrwyo gan eu tad am gadw'n dawel, meddai'r fam.

Er i'r tad wadu'r cyhuddiadau yn wreiddiol, fe wnaeth gyfaddef mewn galwad ffôn i'w fam yntau yn 2017 iddo "daro a slapio'i fab".

Cafodd ei ddedfrydu i gyfanswm o 10 mlynedd o garchar, a bydd yn treulio chwe blynedd a naw mis dan glo.

Fe fydd wedyn ar gyfnod estynedig dan drwydded o dair blynedd a naw mis.

Cafodd gorchymyn yn ei wahardd rhag cyfathrebu gyda'i blant na'i gyn-wraig am gyfnod o 15 mlynedd hefyd ei gyhoeddi.

Dywedodd y Barnwr Keith Thomas wrtho: "I'r plant yma fe ddylech chi wedi bod yn fodel rôl a gwarchodwr.

"Yn lle hynny chi oedd eu poenydiwr.

"Mae lefel y trais yn ei gwneud yn annirnadwy mai modd o ddisgyblu oedd hyn. Rwyf o'r farn eich bod yn risg sylweddol i'r cyhoedd."