Cymorth myfyrwyr yn help i 'deimlo fel Cymraes'
- Cyhoeddwyd
![Tea Racic](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/152C3/production/_108832768_mediaitem108832767.jpg)
"Dwi'n meddwl fy mod i'n Gymraes. Dwi'n teimlo fel Cymraes, beth bynnag…"
Dim ond tair blynedd yn ôl a gyrhaeddodd Tea Racic i Gymru o Groatia.
Ond erbyn hyn mae hi'n teimlo fel Cymraes - ac yn helpu ac annog myfyrwyr eraill i ddysgu rhagor am hanes, iaith a diwylliant Cymru.
Ar ôl graddio o Brifysgol De Cymru gyda gradd mewn Seicoleg eleni, mae bellach yn gweithio i'r brifysgol ac wedi helpu i drefnu ei rhaglen groeso i fyfyrwyr rhyngwladol newydd.
Mae'n dweud bod y rhaglen yn rhan "bwysig iawn" o helpu myfyrwyr i deimlo'n gartrefol yng Nghymru ac i "ddysgu am ddiwylliannau eraill".
'Ail gartref yn sydyn iawn'
Ym mlwyddyn academaidd 2017/18, fe ymgymrodd 21,350 o fyfyrwyr o'r tu allan i'r DU â chyrsiau ym mhrifysgolion Cymru - bron i 20% o'r cyfanswm o fyfyrwyr.
Ym Mhrifysgol De Cymru, roedd bron i 3,000 o rheiny wnaeth gofrestru ar gyfer cwrs yn dod o'r tu allan i'r DU.
![Dr Lisa Davies](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/10255/production/_108833166_mediaitem108833165.jpg)
Yn ôl Dr Lisa Davies o Brifysgol De Cymru, mae dyddiau cyntaf myfyrwyr rhyngwladol yng Nghymru yn hollbwysig.
"I nifer o'n myfyrwyr ni, dyma'r tro cyntaf iddyn nhw hedfan ar awyren, gadael eu teuluoedd, teithio i ochr arall y byd. Felly mae'n bwysig iawn ein bod ni'n darparu'r amser yma iddyn nhw," meddai.
"Mae gan Gymru gymaint i'w gynnig i fyfyrwyr rhyngwladol. Mae'n dod yn ail gartref iddyn nhw yn sydyn iawn."
I ddechrau, roedd Tea Racic ychydig yn betrusgar wrth gyrraedd gwlad newydd, ond erbyn hyn mae Cymru'n teimlo fel "ail gartref" iddi.
"Fe ges i brofiad da iawn yn cyrraedd yma yng Nghymru ac fe wnes i fynychu'r rhaglen groeso rhyngwladol.
"Es i i'r holl ddigwyddiadau a chwrdd â nifer o ffrindiau da - ffrindiau o bob cwr o'r byd ac o'n i'n teimlo wedi cael croeso mawr," meddai.
Yn wreiddiol o Ghana, daeth Rosemary Osei Dufie i Gymru i astudio gradd meistr mewn Seicoleg Glinigol.
"Mae pawb mor gynnes a chroesawgar, dwi'n mwynhau. Dwi wedi bod yng nghastell Caerdydd, wedi defnyddio'r trên… dwi wedi gweld Bae Caerdydd, mae'n hardd."
![Rosemary Osei Dufie](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1E2B/production/_108832770_mediaitem108832769.jpg)
Mae dod i adnabod y diwylliant a'r "bobl glên iawn" yng Nghymru wedi bod yn uchafbwynt i Jasmine Dhaliwal, o Vancouver, Canada.
"Mae cael dod i Gymru wedi bod y peth harddaf, oherwydd dwi erioed wedi bod yma o'r blaen," meddai.
"Ychydig iawn oeddwn i'n ei wybod am Gymru cyn i mi ddod yma," meddai Steiniar Stensø Skjørholm o Norwy.
"Mae'n wlad hardd, cymaint yn wyrddach nag adref ond does yna ddim mynyddoedd fel sydd ganddo ni! Maen nhw yn debycach i fryniau… ac mae'r bobl yn neis iawn."
'Wedi cael yr acen'
Bydd Tea Racic yn parhau i weithio gyda myfyrwyr rhyngwladol trwy gydol y flwyddyn academaidd.
Tra ei bod yn teimlo hiraeth am ei chartref yng Nghroatia, mae'n teimlo'n gryf bod ganddi gartref newydd nawr.
"Maen nhw'n gofyn wrtha i weithiau os ydw i'n dod o Gymru, ond dwi'n dweud 'na, dwi'n wreiddiol o Groatia' ond dwi wedi cael yr acen yma.
"Mae'r Cymry yn neis ac yn glên. Dwi'n galw Cymru yn fy ail gartref nawr.
"Felly dwi adref yma ac adref pan dwi yn ôl yng Nghroatia gyda fy nheulu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2016