Clwb Mynydda yn dathlu'r 40 ac yn apelio am gerddwyr ifanc
- Cyhoeddwyd
Wrth ddathlu'i ben-blwydd yn 40, mae Clwb Mynydda Cymru yn ceisio ehangu ei apêl i bobl iau.
Ar hyn o bryd, mae gan y gymdeithas dros 300 o aelodau.
Ond maen nhw eisiau gweld mwy o gerddwyr ifanc yn ymuno, ac felly'n mynd ati i amrywio pa mor heriol ydy eu teithiau.
"'Da ni'n awyddus iawn i ddenu mwy o bobl ifanc i ddod 'efo ni," meddai Eryl Owain o'r clwb.
Roedd o ymhlith tua 20 aeth ar daith bedol wyth milltir ddiweddar o Lyn Ogwen ger Bethesda, Gwynedd, dros gopaon Tryfan, Glyder Fach, Glyder Fawr a'r Garn.
"Mae 'na rai ifanc sydd yn mynydda am y tro cynta' ac maen nhw, falla, eisiau taith weddol rwydd.
"Ond mae 'na eraill, fel rhai o'r criw sydd 'efo ni heddiw 'ma, eisiau symud ymlaen rhyw gam, eisiau cael profiad o sgrialu.
"Felly dwi'n gobeithio ein bod ni fel clwb yn gallu darparu'r amrywiaeth sy'n addas i wahanol bobl."
Roedd nifer o aelodau newydd, iau, ar y daith o Lyn Ogwen, gydag eraill, fel Ffion Griffiths, ar eu taith gyntaf ers amser maith.
Ond doedd hi ddim yn sicr pam nad oes cymaint â hynny o bobl ifanc yn rhan o'r gweithgareddau.
"Ella achos bod 'na brinder pobl iau yn dod ar hyn o bryd," awgrymodd.
"Ond 'dan ni 'di sôn ein bod ni am drio dod yn amlach ac ella wnawn ni drio denu mwy o bobl ifanc."
Yn ôl Eryl Owain, mae nifer yr aelodau yn "iach" a does dim pryderon gwirioneddol am ddyfodol y clwb.
Er hynny, mae o eisiau gweld gwaed newydd yn ymuno wrth iddyn nhw ddathlu 40 mlynedd o fynydda.
"Mae o'n braf iawn cael cwmni pobl ifanc, gan ragweld mai nhw fydd yr arweinwyr, wedyn, yn y dyfodol," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2019