Heriau ariannol i wynebu Comisiynydd y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi rhybuddio ei fod yn wynebu her ariannol ddifrifol dros y blynyddoedd nesaf.
Wrth gael ei holi gan un o bwyllgorau'r Cynulliad, esboniodd Aled Roberts fod cyllideb wrth gefn y corff yn gostwng i lefelau isel iawn.
Er mwyn arbed arian mae pedair swydd yn cael eu cadw'n wag, esboniodd Mr Roberts wrth y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
Golygai hynny y byddai yna "bwysau gwaith ychwanegol ar staff".
Byddai unrhyw ostyngiad pellach yn "effeithio ar ein gwaith hybu a hyrwyddo a llai o swyddogion ar gael i ddelio a chwynion," ychwanegodd.
'Heriau cyllidol'
Roedd ei ragflaenydd, Meri Huws, wedi rhybuddio y byddai "heriau cyllidol" yn wynebu'r Comisiynydd newydd, gafodd ei benodi ym mis Tachwedd y llynedd.
Yn ôl Aled Roberts y prif bryder yw "ariannu'r codiad cyflog a chyfraniadau pensiwn ar gyfer y gwasanaeth sifil".
Gofynnodd David Melding AC, aelod o'r pwyllgor, os yw'r sialens ariannol yn amharu ar allu'r Comisiynydd i weithredu.
Dywedodd Mr Roberts fod ganddo ddyletswydd statudol i ymchwilio i gwynion ac y gallai'r gwaith o hybu a hyrwyddo'r Gymraeg "ddiflannu oherwydd bod yn rhaid rheoleiddio".
"Dwi eisiau hybu a hyrwyddo ond mae o yn bryder," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd2 Medi 2019
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2019