Diwrnod gwych i Forgannwg yn erbyn Sir Gaerlŷr
- Cyhoeddwyd
Mae tîm criced Morgannwg mewn sefyllfa gref ar ddiwedd yr ail ddiwrnod o chwarae ym Mhencampwriaeth yn Siroedd yn erbyn Sir Gaerlŷr yng Nghaerdydd.
Fe ddechreuodd y tîm cartref y dydd ar 300-4, ac fe lwyddon nhw i ychwanegu 135 i'r cyfanswm yna gyda'r capten Chris Cooke yn sgorio 96 disglair.
Yna daeth tro'r bowlwyr i wneud eu marc, ac fe lwyddon nhw hefyd.
Er i'r ymwelwyr sgorio 85 cyn colli eu wiced gyntaf, cyn pen dim roedden nhw'n 87-5 wrth i Samit Patel droelli'n gelfydd.
Pan ddaeth y chwarae i ben roedd yr ymwelwyr wedi cyrraedd 191-9.
Maen nhw felly dal 244 yn brin o gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg ac mae'n bosib y bydd rhaid iddyn nhw fatio eto yn syth os na fyddan nhw'n cyrraedd 235.
Er bod gobeithion Morgannwg o gael dyrchafiad yn denau, fe fyddai buddugoliaeth ysgubol gyda phwyntiau bonws llawn yn cadw'r gobeithion yna yn fyw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi 2019