Cyngor i gefnogwyr rygbi guddio'u tatŵs yn Japan
- Cyhoeddwyd
Mae yna gyngor i gefnogwyr rygbi Cymru sy'n teithio i Japan ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd i guddio'u tatŵs gan eu bod yn cael eu cysylltu yn y wlad â gangiau troseddol.
Mae disgwyl i gannoedd gyrraedd y wlad cyn gêm gyntaf Cymru yn y bencampwriaeth ddydd Llun.
Gan fod tatŵs yn peri tramgwydd yn Japan, fe allai twristiaid gael eu hatal rhag mynd i ffynhonnau poeth cymunedol, pyllau nofio a champfeydd.
Mae Llywodraeth y DU hefyd yn rhybuddio cefnogwyr rygbi mai arian parod sy'n cael ei ddefnyddio yn Japan, a bod rhai meddyginiaethau cyffredin yn cael eu gwahardd yno.
Pwysig gwybod am y confensiynau
Mae Gavin Baos, sydd â thatŵs ar rannau helaeth o'i freichiau a'i goesau, wedi prynu crysau llewys hir a throwsusau loncian ar gyfer dilyn Cymru yn Japan, er ei fod fel arfer "yn byw mewn shorts, crysau-T a fflip-fflops".
"Maen nhw'n datŵs eitha' mawr felly mae wedi fy mhoeni go iawn," meddai'r ymgynghorydd ariannol 42 oed o Gaerdydd, sy'n treulio 11 diwrnod yno gyda ffrindiau.
"Dywedodd ffrind yn Tokyo bod dim ffordd gewch chi fynd i rai campfeydd neu byllau gyda thatŵs oherwydd bydde fe'n pechu.
"Mae'n wirioneddol bwysig i wybod am y confensiynau yma oherwydd y peth olaf rwy' mo'yn gwneud yw pechu rhywun.
"Yr unig rwystredigaeth yw y gallai fod yn anghyfforddus mewn gwres o 25º a lleithder o 100%."
Cuddio gyda sticeri
Mae cwmni Strachan Sports Travel, o'r Bont-faen ym Mro Morgannwg, yn mynd â chwe grŵp o deithwyr o Gymru i'r gystadleuaeth.
Dywedodd y rheolwr, Angharad Griffiths: "Fe allai pethau cael eu llacio ychydig yn ystod Cwpan y Byd, er mwyn peidio tramgwyddo rhai diwylliannau.
"Fodd bynnag, rydyn ni wedi cynghori unrhyw un â thatŵs y galle achlysuron godi pan mae angen eu cuddio."
Mae trefnwyr y bencampwriaeth wedi awgrymu y gallai ffynhonnau poeth a baddondai gynnig sticeri i ymwelwyr roi dros eu tatŵs, neu eu cyfyngu i amseroedd penodol.
Er bod dim disgwyl i chwaraewyr guddio'u tatŵs yn ystod gemau, mae gofyn iddyn nhw a swyddogion rygbi beidio â'u dangos yn gyhoeddus yn gyffredinol.
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru: "Wedi ein taith yn Japan yn 2013, ac ar ôl ymweld â'r wlad ar sawl achlysur fel rhan o baratoadau Cwpan Rygbi'r Byd, mae'r rheolwyr a'r garfan yn edrych ymlaen at arddel y diwylliant lleol a bydden ni wrth gwrs yn ufuddhau â'r holl brotocolau."
Mae'r trefnwyr hefyd yn cynghori ymwelwyr i barchu confensiynau eraill Japan, dolen allanol gan gynnwys osgoi gwneud gormod o sŵn ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi 2019
- Cyhoeddwyd11 Medi 2019
- Cyhoeddwyd1 Medi 2019