Ad-dalu £500,000 ar ôl twyllo'r GIG dan enwau U2
- Cyhoeddwyd
Mae tri o gyn-reolwyr gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a gafodd eu carcharu y llynedd am dwyllo'r GIG wedi cael gorchymyn i ad-dalu dros £500,000.
Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful y llynedd fod Mark Evill, 47, wedi defnyddio enwau go iawn dau aelod o'r grŵp U2 i sicrhau cytundebau gyda'r GIG ar gyfer cwmni adeiladu ffug yr oedd wedi ei sefydlu.
Fe wnaeth hynny gyda chydweithrediad dau o'i gydweithwyr, Robert Howells, 65, a Michael Cope, 43.
Cafodd Evill ddedfryd o saith mlynedd o garchar. Pedair blynedd oedd y gosb yn achos Howells, a thair blynedd o garchar oedd dedfryd Cope.
Yn Llys Y Goron Abertawe ddydd Iau, fe orchmynodd y Barnwr Peter Heywood i'r tri ad-dalu £563,496.95 i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, a thaliad ychwanegol o £120 yr un.
Mae'r bwrdd hefyd yn hawlio dros £114,000 yn ôl gan y Swyddfa Cyllid a Thollau (HMRC) mewn trethi a dalwyd gan gwmni ffug Evill.
Clywodd y gwrandawiad bod Evill wedi gwneud £795,930.06 o'r twyll, a bydd yn rhaid iddo dalu'r holl arian sydd ganddo i'w enw fel iawndal, sef £549,688.75.
Rhaid i Howells dalu cyfanswm o £13,368.24.
Cafodd Cope orchymyn i dalu £659.96 i'r bwrdd iechyd o fewn tri mis, sy'n cynnwys £500 a derbyniodd gan Evill.
Fe roddodd Evill enw ei gi ar y cwmni George Morgan Ltd mewn ymgais i ennill cytundebau iechyd i'w hun, a hudo unigolion eraill i gyflawni "twyll ffiaidd ar y gwasanaeth iechyd".
Ac fe ddefnyddiodd yr enwau Paul Hewson a David Evans mewn gohebiaeth - enwau go iawn Bono a The Edge - i guddio'i gysylltiad gyda'r cwmni.
Roedd y gwaith a gafodd ei wneud ar ysbytai gan y cwmni mor ddiffygiol fe gostiodd £1.4m i'r GIG i'w adfer, a chafodd rhywfaint o waith mo'i wneud o gwbwl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2018