Buddugoliaeth yn rhoi hwb i Forgannwg

  • Cyhoeddwyd
wicedFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Morgannwg yn dathlu cipioi wiced bwysig Mark Cosgrove

Mae gobeithion Morgannwg o ennill dyrchafiad i Adran Gyntaf Pencampwriaeth y Siroedd yn dal yn fyw yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Sir Gaerlŷr ddydd Iau.

Ar ddechrau'r dydd roedd yr ymwelwyr i Erddi Soffia angen sgorio 392 o rediadau i ennill y gêm, ond roedden nhw eisoes wedi colli dwy wiced yn eu hail fatiad.

Cyn pen dim roedd Michael Hogan wedi cipio dwy arall i'w gadael mewn trafferthion.

Er i Harry Dearden a Mark Cosgrove frwydro'n ôl am ychydig, fe gipiodd Andrew Salter wiced Dearden cyn i Billy Root redeg Cosgrove allan gyda thafliad ardderchog.

Erbyn canol y prynhawn roedd Salter wedi cipio dwy arall - mewn dwy belen - a'r ymwelwyr i gyd allan am 132.

Buddugoliaeth i Forgannwg felly o 291 o rediadau, a phwyntiau bonws llawn.

Maen nhw'n bedwerydd yn y tabl gydag un gêm yn weddill, gyda honno yn erbyn Durham ac yn dechrau ddydd Llun. Y tri uchaf sy'n codi i'r Adran Gyntaf ar ddiwedd y tymor.

Bydd yn rhaid i Forgannwg ennill y gêm olaf, gan obeithio fod un o'r ddau dîm sy'n uwch na nhw yn colli'n drwm.

Adran 2 - Pencampwriaeth y Siroedd - ar ôl 13 gêm :

  1. Sir Gaerhirfryn - 201 o bwyntiau

  2. Sir Northants - 181

  3. Sir Gaerloyw - 176

  4. Morgannwg - 160