Teithio i Gwpan y Byd Japan... mis yn gynnar

  • Cyhoeddwyd
Alun yn JapanFfynhonnell y llun, ALUN ROBERTS

Pan brynodd Alun Roberts ddau docyn awyren i Japan doedd o ddim yn credu ei lwc yn cael cymaint o fargen a hithau'n gyfnod Cwpan y Byd.

Ond buan y sylweddolodd pam ei fod wedi cael cystal pris: roedd o'n hedfan allan i weld Cymru v Fiji fis yn gynnar.

Ei gefnder wthiodd y cwch i'r dŵr gan ddweud ei fod yn gallu cael dwy sedd i wylio'r cochion yn eu trydydd gêm grŵp.

Rhoddodd y dyddiadau i Alun - ac fe brynodd yntau'r tocynnau i fynd drosodd i'r Dwyrain Pell a threfnu cyfnod i ffwrdd o'r gwaith.

Ond wrth drafod manylion y trip ychydig wythnosau yn ddiweddarach fe sylweddolodd y ddau eu bod wedi gwneud camgymeriad.

Roedd wedi gweld dyddiad y gêm yn ei ffurf Americanaidd - lle mae rhif y mis yn cael ei roi cyn rhif y diwrnod. Felly roedd Hydref 9 yn troi yn Medi 10.

"Nes i wenu arno a deud 'paid poeni mae'n iawn, awn ni beth bynnag' - ond tu fewn o ni'n fatha: 'Aaargh!'," meddai Alun.

Roedd yn sgwrsio ar raglen Radio Cymru Aled Hughes wedi iddo gyrraedd yn ôl i Ynys Môn mewn pryd i wylio'r seremoni agoriadol... ar y teledu.

Ffynhonnell y llun, Alun Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Er na chafodd gyfle i wylio Cymru yn chwarae rygbi, roedd Alun wrth ei fodd yn ymweld â Japan

Tydi o ddim yn chwerw o gwbl - ac wedi mwynhau'r profiad o deithio gyda'i gefnder: "Ro'n i'n hapus cael mynd ar fy holides a dweud y gwir.

"Un peth oedd yn reit braf oedd gafo ni'r wythnos i gyd i ni ein hunain a theithio i weld be' oedden ni eisiau gweld yn hytrach na'n bod ni'n colli dau ddiwrnod yn teithio nôl a blaen i weld y gêm.

"Roedd o'n brofiad bythgofiadwy, faswn i'n awgrymu i unrhyw un fynd yno."

Hefyd o ddiddordeb: