Y Bencampwriaeth: Bristol City 0-0 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Roedd cyn gapten Abertawe, Ashley Williams yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i Bristol City
Mae Abertawe wedi methu'r cyfle i godi i frig y Bencampwriaeth yn dilyn gêm ddi-sgôr oddi cartref yn Bristol City ddydd Sadwrn.
Gyda Leeds a Derby yn gorffen yn gyfartal yn y gêm gynnar, fe allai Abertawe fod wedi codi i'r brig gyda buddugoliaeth yn Ashton Gate.
Roedd cyn gapten Abertawe, Ashley Williams yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i Bristol City gyda'i brofiad a'i bresenoldeb yn sicrhau llechen lân i'r tîm cartref.
Roedd rhaid disgwyl 34 munud i weld yr ergyd cyntaf at gôl gyda chic rydd Josh Brownhill yn hedfan i ddwylo Freddie Woodman yn y gôl i'r Elyrch.
Fe aeth André Ayew yn agos i sgorio gyda 18 munud yn weddill ond roedd Bentley yn effro yn y gôl i Bristol City i arbed y cyfle.
Ym munud olaf y gêm fe gafodd Jake Bidwell ei anfon o'r maes i Abertawe yn dilyn tacl hwyr ar Niclas Eliasson.
Er gwaethaf y cerdyn coch fe orffennodd y gêm yn ddi-sgôr, gydag Abertawe yn parhau yn yr ail safle gyda 17 pwynt.