Y Gynghrair Genedlaethol: Aldershot 1-0 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi disgyn i'r ugeinfed safle yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol ar ôl colli oddi-cartref i Aldershot.
Yn dilyn hanner cyntaf di-sgôr fe ddylai Wrecsam fod wedi sgorio ond fe ergydiodd Bobby Grant heibio'r postyn o chwe llath.
Gyda llai na munud o'r gêm yn weddill aeth y tîm cartref ar y blaen diolch i ergyd Harrison Panayiotou.
Dim ond dwy gêm allan o 11 mae Wrecsam wedi llwyddo i ennill yn y gynghrair y tymor hwn, gyda phum gêm gyfartal a phedair colled hyd yma.