UEFA'n cosbi Slofacia gyda stadiwm gaeëdig i gêm Cymru

  • Cyhoeddwyd
Trnava, SlovakiaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gêm rhwng Slofacia a Chymru i fod yn Trnava ar 10 Hydref

Mae'n debyg y bydd yn rhaid i gêm bêl-droed ragbrofol rhwng Slofacia a Chymru gael ei chwarae mewn stadiwm gaeëdig, yn dilyn cosb gan UEFA.

Fe wnaeth UEFA, y corff sy'n rheoli pêl-droed Ewrop, gymryd camau disgyblu yn erbyn Slofacia oherwydd ymddygiad eu cefnogwyr yn Hwngari ar 9 Medi.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Slofacia wedi cadarnhau y byddan nhw'n apelio yn erbyn penderfyniad UEFA, sydd hefyd yn cynnwys dirwy o €20,000 neu £17,665.

Ond dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) nad oes modd iddi apelio yn erbyn y penderfyniad o wahardd cefnogwyr Cymru o'r stadiwm yn Trnava.

Ychwanegodd y gymdeithas ei bod yn "hynod siomedig gan fod goblygiadau'r penderfyniad yma ag effaith llym ar ein cefnogwyr sydd eisoes wedi talu am lety a thrafnidiaeth i fynd i'r gêm".

'Hynod rwystredig'

Dywedodd CBDC ei bod wedi gofyn am eglurhad pellach am y gêm - sy'n rhan o gemau rhagbrofol Euro 2020 ac wedi ei chlustnodi ar gyfer 10 Hydref.

Ychwanegodd y gymdeithas mewn datganiad ei bod yn "hynod rwystredig gyda'r modd y mae'r penderfyniad hwn wedi cael ei gyfathrebu i'r gymdeithas".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daniel James sgoriodd yr unig gôl yn y gêm rhwng y ddwy wlad ym mis Mawrth

"Mae CBDC ar hyn o bryd yn cyflwyno achos cryf i UEFA am effaith annheg y penderfyniad ar y 2,137 o gefnogwyr sydd wedi prynu tocynnau ar gyfer y gêm," meddai'r datganiad.

"Mae enw da ymddygiad ein cefnogwyr yn hysbys drwy Ewrop ac nid ydynt yn haeddu cael eu cosbi yn yr un ffordd a'r nifer fechan o gefnogwyr sydd yn deilwng o gosb gan UEFA."

200 o gefnogwyr?

Yn ôl rheolau UEFA byddai modd i 200 o gefnogwyr Cymru fynychu'r gêm gyda thocynnau categori 1.

Ar hyn o bryd mae Slofacia yn ail yn Grŵp E, tri phwynt ar y blaen i dîm Ryan Giggs, ond mae gan Gymru gêm mewn llaw.

Roedd Cymru yn fuddugol yn y gêm rhwng y ddau dîm yn Stadiwm Dinas Caerdydd 'nôl ym mis Mawrth.