Dirwy am symud rhwystrau diogelwch ar bont oedd ar gau

  • Cyhoeddwyd
Ardal Pont BodfelFfynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y diffynnydd ei ffilmio'n symud rhwystrau diogelwch a chôn traffig er mwyn osgoi taith hirach

Mae gyrrwr tacsi o Wynedd wedi cael dirwy ar ôl iddo gael ei ddal ar gamera yn symud rhwystrau diogelwch ar bont oedd wedi ei difrodi.

Cafodd David Gwynedd Morris, sy'n 55 oed ac o Dalysarn, ei erlyn ar ôl iddo gael ei ffilmio'n symud y rhwystrau gan un o'r teithwyr yn ei gerbyd.

Ymchwiliodd Heddlu'r Gogledd i'r mater wedi i'r fideo gael ei gyhoeddi ar-lein, ac fe gafodd Morris ei erlyn am ymyrryd ag offer traffig yn anghyfreithlon.

Cafodd orchymyn mewn gwrandawiad yng Nghaernarfon i dalu dirwy o £250, £775 mewn costau a thaliad ychwanegol o £30.

Mae'r cyngor sir "yn ystyried dyfarniad y llys yng nghyd-destun materion trwyddedu tacsis".

Bu'n rhaid atal gyrwyr rhag mynd ar draws Bont Bodfel ar yr A497 rhwng Efailnewydd a Boduan ym mis Ionawr wedi i gerbyd achosi difrod sylweddol iddi.

Syrthiodd ddarn o'r wal ar un ochr o'r bont Gradd II i Afon Rhyd-hir o ganlyniad.

'Diolch am ffilmio'

"Roedd hwn yn gamgymeriad costus gan Morris, a beryglodd bywydau trwy symud y rhwystrau a chôn [traffig] oedd wedi eu gosod yna am resymau diogelwch," meddai'r Sarjant Meurig Jones o Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru.

"Roedd hyn yn ymddygiad annerbyniol, disynnwyr a brawychus gan yrrwr proffesiynol honedig.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd

"Roedd rhan o'r ffordd wedi cael difrod peryglus ac eto fe roddodd ei hun, ei deithwyr a gyrwyr diniwed eraill mewn perygl o niwed.

"Hoffwn ddiolch i'r teithiwr a ffilmiodd y digwyddiad a'i roi ar y cyfryngau cymdeithasol - er nad oedden nhw'n fodlon rhoi datganiad roedd hwn yn erlyniad llwyddiannus.

"Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd yn danfon neges i unrhyw un sy'n cael eu dal yn gwneud rhywbeth tebyg y bydden nhw'n cael eu herlyn."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Fel yr awdurdod trwyddedu lleol, rydym yn ystyried dyfarniad y llys yng nghyd-destun materion trwyddedu tacsis."