Glaw yn amharu ar obeithion Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
wicedFfynhonnell y llun, Rex Features

Sir Durham gafodd y gorau o'r chwarae yn erbyn Morgannwg ond dim ond awr o chwarae oedd yn bosib oherwydd y glaw yn Riverside yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd ddydd Mawrth.

Llwyddodd y tîm cartref i ychwanegu 65 o rediadau, gan orffen y diwrnod ar 262 am wyth wiced.

Syrthiodd dwy wiced i'r bowliwr cyflym Marchant de Lange.

Mae'n rhaid i Forgannwg ennill y gêm er mwyn cael unrhyw obaith o gael dyrchafiad i'r adran gyntaf.