Cwpan y Gynghrair: Watford 2-1 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Y ddau Gymro, Ben Cabango (chwith) a Connor Roberts (dde) yn brwydro yn erbyn Andre Gray
Mae Abertawe allan o Gwpan y Gynghrair ar ôl colli 2-1 oddi gartref yn erbyn Watford nos Fawrth.
Roedd y gwrthwynebwyr, sydd ar waelod Uwch Gynghrair Lloegr, yn rhy gryf i'r Elyrch, gyda Roberto Pereyra yn sgorio'r gôl fuddugol.
Rhoddodd Danny Welbeck y tîm cartref ar y blaen, cyn i Sam Surridge unioni'r sgôr.
Roedd tri Chymro - yr amddiffynwyr Ben Cabango, Connor Roberts a Declan John - yn cychwyn y gêm i'r Elyrch.
Bydd Abertawe yn croesawu Reading i Stadiwm Liberty yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn.