Cwmni Mansel Davies yn pledio'n euog i ffugio cofnodion
- Cyhoeddwyd
Mae un o gwmnïau cludiant amlycaf Cymru wedi pledio'n euog i gyfres o gyhuddiadau'n ymwneud â ffugio cofnodion cynnal a chadw cerbydau nwyddau.
Mewn gwrandawiad yn Llys Y Goron Abertawe, fe blediodd cwmni Mansel Davies a'i Fab yn euog i 19 o gyhuddiadau.
Ond dywedodd yr erlyniad bod cyhuddiadau pellach yn erbyn rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Stephen Mansel Davies, yn cael eu gollwng.
Mae disgwyl i'r cwmni - sydd â phencadlys yn Llanfyrnach, ger Crymych yn Sir Benfro - gael ei ddedfrydu ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf.
Fe blediodd gweithiwr gyda'r cwmni, Jonathan Wyn Phillips, yn ddieuog i'r holl gyhuddiadau sydd wedi eu dwyn yn ei erbyn gan asiantaeth drwyddedu'r DVSA.
Cafodd Mr Phillips fechnïaeth ddiamod nes cynnal ei achos ym mis Ionawr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2019