Gweithiwr wedi marw yn dilyn damwain yn ffatri Tata Steel

  • Cyhoeddwyd
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 14:00 ddydd Mercher
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 14:00 ddydd Mercher

Mae cwmni dur Tata Steel wedi cadarnhau bod gweithiwr wedi marw yn dilyn damwain yn ymwneud â pheirianwaith yn eu ffatri ym Mhort Talbot.

Mewn datganiad, fe ddywedodd cwmni Tata fod teulu'r person wedi cael gwybod a'u bod wedi lansio "ymchwiliad llawn" i'r digwyddiad.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi mynd i'r ffatri dur yn dilyn adroddiadau fod person angen gofal meddygol brys.

Cafodd Ambiwlans Awyr Cymru hefyd eu galw tua 14:00 ddydd Mercher.

Dywedodd Heddlu'r De nad oedd unrhyw fygythiad i'r cyhoedd, a'u bod yn trafod y mater gyda'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.