Boris Johnson yn amddiffyn ei sylwadau i ASau

  • Cyhoeddwyd
Boris JohnsonFfynhonnell y llun, Ty'r Cyffredin

Mae Boris Johnson wedi amddiffyn ei sylwadau i Aelodau Seneddol ar ôl iddo gael ei gyhuddo o ddefnyddio geiriau ymfflamychol.

Daw ymateb y prif weinidog mewn cyfweliad â BBC Cymru, er y feirniadaeth gan rai Ceidwadwyr Cymreig.

Fe alwodd cyn-Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb ar Mr Johnson i ymddiheuro am yr hyn ddywedodd ynghylch llofruddiaeth yr AS Jo Cox.

Ond yn ôl Cadeirydd y Blaid Geidwadol James Cleverly, mae'r honiadau wedi bod yn "hynod o annheg".

Wrth annerch y Senedd nos Fercher fe wnaeth Mr Johnson ddefnyddio geiriau fel "surrender" a "betray".

Dywedodd hefyd wrth y Senedd mai'r ffordd orau i goffáu Ms Cox oedd sicrhau bod Brexit yn digwydd.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Jo Cox ei saethu a'i thrywanu i farwolaeth ym mis Mehefin 2016

Wrth siarad âr BBC, dywedodd y prif weinidog: "Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn pwysleisio bod 'na ddau beth gwahanol yma.

"Yn gyntaf mae'r bygythiadau i Aelodau Seneddol benywaidd, bygythiadau i bob Aelod Seneddol, dwi'n ofni yn rhy gyffredin ac mae'n rhaid sicrhau bod hynny'n stopio.

"Mae iaith gwleidyddiaeth wedi mynd yn bersonol iawn."

Gofynnwyd i Mr Johnson os oedd hynny'n cynnwys ei sylwadau o. "Na," meddai.

Mesur yn 'gonsesiwn'

Fe wnaeth hefyd drafod mesur sy'n gorfodi'r llywodraeth i ofyn am estyniad i Brexit os nad oes cytundeb gyda'r UE erbyn diwedd Hydref.

"Y peth arall ydy'r surrender bill, sydd heb os yn gonsesiwn mawr i'r Undeb Ewropeaidd yn y trafodaethau.

"Be' mae Deddf Benn yn ei wneud ydy rhoi'r grym i'r UE i benderfynu pa mor hir y dylai'r Deyrnas Unedig barhau o fewn yr undeb.

"Mae hynny'n rhywbeth eitha' syfrdanol i'w wneud," meddai.