ASau Cymru'n ôl yn San Steffan wedi dyfarniad hanesyddol
- Cyhoeddwyd
Bydd aelodau seneddol y gwrthbleidiau'n cwrdd yn nes ymlaen i drafod eu cam nesaf wrth i Dŷ'r Cyffredin ddychwelyd.
Daw ar ôl dyfarniad hanesyddol y Goruchaf Lys ddydd Mawrth, a ddaeth i'r casgliad fod ataliad Senedd Boris Johnson yn anghyfreithlon.
Roedd yr 11 barnwr yn unfrydol nad oedd y gwaharddiad yn ddilys.
Wrth ymateb i'r datblygiadau fore Mercher, dywedodd AS Ceidwadol sydd wedi colli'r chwip bod "cwestiynau dybryd" i'w gofyn o Mr Johnson bellach.
Ddydd Mawrth, cyhoeddwyd fod penderfyniad y llywodraeth wedi atal y Senedd rhag gwneud ei dyletswyddau yn iawn.
Cyhoeddodd llefarydd Tŷ'r Cyffredin, John Bercow, y bydd y Senedd yn ail-ymgynnull ddydd Mercher am 11:30.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, mai blaenoriaeth ei phlaid yw atal Brexit heb gytundeb.
Yn y cyfamser dywedodd AS Llafur, Stephen Doughty, na ddylai'r Senedd gytuno ar doriad ar gyfer cynhadledd y blaid Geidwadol, sy'n dechrau'r penwythnos hwn.
Ar y Post Cyntaf fore Mercher, dywedodd Guto Bebb, aelod Ceidwadol sydd wedi colli chwip y blaid, bod "cwestiynau dybryd" i'w gofyn o'r prif weinidog.
"Dwi'n teimlo bod yr hyn sydd wedi digwydd a dyfarniad y Goruchaf Lys yn golygu fod 'na gwestiynau dybryd i'w gofyn a dwi'n credu bod hynny'n mynd yn syth at swydd y prif weinidog oherwydd penderfyniad y prif weinidog oedd hyn...
"Dwi yn credu bod y sefyllfa mor ddifrifol nes bod angen i Boris Johnson ystyried ei sefyllfa."
Fe wnaeth Mr Bebb gydnabod nad oedd yn debygol y byddai Mr Johnson yn ymddiswyddo, gan ddweud bod hynny'n "dweud cyfrolau am addasrwydd Mr Johnson i'r swydd mae'n ei dal".
Dywedodd Jonathan Edwards AS o Blaid Cymru ei bod hi'n "hollol amlwg" bod angen atal Brexit heb gytundeb, ymestyn Erthygl 50 a chynnig refferendwm arall i'r bobl.
"Dyna'r ffordd ddemocrataidd, synhwyrol," meddai wrth Taro'r Post, gan ychwanegu y byddai "prif weinidog ag unrhyw hygrededd" yn ymddiswyddo.
'Ni ddylem ddiflannu eto'
Dywedodd Aelod Seneddol Llafur De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty, fod gan ASau dair tasg ar ôl dychwelyd - craffu gweinidogion ar drafodaethau Brexit a materion eraill, dod o hyd i ffordd i ddatrys mater Brexit, ac ystyried materion cenedlaethol a rhyngwladol "enfawr" eraill fel Iran a newid yn yr hinsawdd.
Dywedodd na ddylai ASau gytuno ar doriad ar gyfer cynhadledd y Blaid Geidwadol, sy'n dechrau ar 29 Medi.
"Ni ddylem fod mewn unrhyw ffordd yn diflannu eto," meddai.
"Dylai allu gweithio o gwmpas hynny fel unrhyw un arall. Peidiwch ag anghofio nad yw'r SNP a Phlaid Cymru yn cael cilfachau ar gyfer eu cynadleddau beth bynnag."
Dywedodd AS Brycheiniog a Sir Faesyfed Jane Dodds fod yr awyrgylch yn Nhŷ'r Cyffredin fore Mercher wedi bod yn "ofnadwy".
Yn siarad ar Taro'r Post, dywedodd: "Ma' Geoffrey Cox wedi bod yn amddiffyn ei sefyllfa fo a mae wedi bod fel pantomeim - mae'n uffernol.
"Mae gen i bach o siom tuag at be' sy'n mynd ymlaen - yn fy marn i dydy o ddim yn dderbyniol."
Ychwanegodd fod ei phlaid yn dal yn barod i gydweithio gyda'r gwrthbleidiau eraill, ond eu bod ar hyn o bryd yn "aros i weld be' sy' am ddigwydd".
Mae ASau Llafur a Phlaid Cymru, yn ogystal â Mr Bebb a Ms Dodds wedi cynorthwyo ymdrechion yr wrthblaid i reoli'r Senedd yn y gorffennol.
Arweiniodd hynny at ddeddfwriaeth, a basiwyd cyn yr ataliad, gyda'r nod o atal gadael heb gytundeb ar 31 Hydref.
Yn y cyfamser mae'r Prif Weinidog Boris Johnson wedi dweud ei fod yn anghytuno'n gryf â phenderfyniad y Goruchaf Lys, ond y bydd yn parchu'r penderfyniad.
"Y prif beth yw ein bod yn symud ymlaen ac yn delifro Brexit erbyn 31 Hydref... ond fe fydd y Senedd yn ail-ymgynnull a byddwn yn parchu hynny," meddai.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r her gyfreithiol yn erbyn y penderfyniad Mr Johnson i gau'r Senedd, gan gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ymysg y rhai oedd yn galw ar Mr Johnson i ymddiswyddo yn sgil y dyfarniad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2019