Dadlau ffyrnig wrth i ASau ddychwelyd i Dŷ'r Cyffredin

  • Cyhoeddwyd
Boris Johnson

Mae Boris Johnson wedi dweud wrth aelodau seneddol fod y Goruchaf Lys "yn anghywir i benderfynu ar gwestiwn gwleidyddol ar adeg o ymryson cenedlaethol."

Fe wnaeth o hefyd annog y pleidiau llai yn Nhŷ'r Cyffredin i symud pleidlais o ddiffyg hyder er mwyn cael etholiad cyffredinol.

Ond hyd yma mae'r gwrthbleidiau yn cynnwys Llafur, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol, a'r SNP, wedi gwrthod y syniad nes bod modd sicrhau na fydd yna unrhyw bosibilrwydd o Brexit heb gytundeb.

Roedd yna wrthdaro ffyrnig rhwng Mr Johnson a'r gwrthbleidiau bnawn Mercher.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, mai blaenoriaeth ei phlaid yw atal Brexit heb gytundeb.

Fe wnaeth Mr Johnson ddychwelyd o Efrog Newydd yn gynnar ar ôl i'r Goruchaf Lys benderfynu ddydd Mawrth ei fod wedi gweithredu yn anghyfreithlon.

Roedd yr 11 barnwr yn unfrydol nad oedd y gwaharddiad yn ddilys.

'Ni ddylem ddiflannu eto'

Dywedodd Aelod Seneddol Llafur De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty, fod gan ASau dair tasg ar ôl dychwelyd - craffu gweinidogion ar drafodaethau Brexit a materion eraill, dod o hyd i ffordd i ddatrys mater Brexit, ac ystyried materion cenedlaethol a rhyngwladol "enfawr" eraill fel Iran a newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd na ddylai ASau gytuno ar doriad ar gyfer cynhadledd y Blaid Geidwadol, sy'n dechrau ar 29 Medi.

"Ni ddylem fod mewn unrhyw ffordd yn diflannu eto," meddai.

"Dylai allu gweithio o gwmpas hynny fel unrhyw un arall. Peidiwch ag anghofio nad yw'r SNP a Phlaid Cymru yn cael cilfachau ar gyfer eu cynadleddau beth bynnag."

Dywedodd Jonathan Edwards AS o Blaid Cymru ei bod hi'n "hollol amlwg" bod angen atal Brexit heb gytundeb, ymestyn Erthygl 50 a chynnig refferendwm arall i'r bobl.

"Dyna'r ffordd ddemocrataidd, synhwyrol," meddai wrth Taro'r Post, gan ychwanegu y byddai "prif weinidog ag unrhyw hygrededd" yn ymddiswyddo.

Mae Boris Johnson wedi dweud ei fod yn anghytuno'n gryf â phenderfyniad y Goruchaf Lys, ond y bydd yn parchu'r penderfyniad.

"Y prif beth yw ein bod yn symud ymlaen ac yn delifro Brexit erbyn 31 Hydref... ond fe fydd y Senedd yn ail-ymgynnull a byddwn yn parchu hynny," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jane Dodds bod y senedd "fel pantomeim" ddydd Mercher

Dywedodd AS Brycheiniog a Sir Faesyfed Jane Dodds fod yr awyrgylch yn Nhŷ'r Cyffredin fore Mercher wedi bod yn "ofnadwy".

Yn siarad ar Taro'r Post, dywedodd: "Ma' Geoffrey Cox wedi bod yn amddiffyn ei sefyllfa fo a mae wedi bod fel pantomeim - mae'n uffernol.

"Mae gen i bach o siom tuag at be' sy'n mynd ymlaen - yn fy marn i dydy o ddim yn dderbyniol."

Ychwanegodd fod ei phlaid yn dal yn barod i gydweithio gyda'r gwrthbleidiau eraill, ond eu bod ar hyn o bryd yn "aros i weld be' sy' am ddigwydd".