Cynnig cyfle i gyn-weithwyr Thomas Cook yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Thomas Cook
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw awyrennau Thomas Cook yn hedfan ers i'r newyddion am dranc y cwmni dorri

Bydd tua 150 o gyn-weithwyr cwmni Thomas Cook yn mynychu diwrnod recriwtio yn Abertawe ddydd Iau, sydd ar eu cyfer nhw yn unig.

Aeth y cwmni teithio i ddwylo'r gweinyddwyr yn oriau mân fore Llun gan beryglu 22,000 o swyddi ar draws y byd, gan gynnwys 9,000 yn y DU.

Mae cwmni Travel House yn agor eu drysau i'r rhai sydd wedi colli eu swyddi gyda Thomas Cook.

Dywedodd y cwmni fod ganddyn nhw swyddi ar gael ar draws eu rhwydwaith o orllewin Cymru i Fryste.

Bydd diwrnod agored yn cael ei gynnal ym mhencadlys Travel House, a dywedodd y cwmni mewn datganiad: "Er ein bod yn deall fod hyn yn sioc i ffrindiau a chydweithwyr yn y diwydiant, rydym hefyd yn deall y byddwch yn awyddus i ddatrys eich sefyllfa cyn gynted â phosib."

Yn y cyfamser mae tua 150,000 o bobl yn cael eu cludo adref o'u gwyliau dramor, ac mae miloedd yn fwy wedi colli eu gwyliau yn y dyfodol yn dilyn cwymp Thomas Cook.

Mae eu prif weithredwr, Peter Frankhauser wedi ymddiheuro i staff a chwsmeriaid.

Mae cwmni hedfan Virgin Atlantic hefyd wedi hysbysebu swyddi yn benodol i staff Thomas Cook.