Prifysgol yn lansio PhD ar y cyd â'r Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi lansio dwy ysgoloriaeth PhD ar y cyd â'r Eisteddfod Genedlaethol a chwmni cyhoeddi Graffeg.
Bydd yr ysgoloriaethau'n cynnwys ffïoedd a grant blynyddol cychwynnol o £14,628, gyda'r grant yn para tair blynedd.
Dywedodd y brifysgol bod y doethuriaethau'n "gyfle gwych i ymchwilio meysydd cyffrous o fewn y diwydiannau creadigol a digidol".
Gobaith y doethuriaethau, sy'n cael eu cyllido gan gynllun Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth yr Undeb Ewropeaidd, yw cael mwy o arbenigedd am feysydd digidol a chreadigol yng Nghymru.
'Ymchwil arloesol'
Dywedodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones o'r brifysgol bod "buddsoddi mewn ymchwil arloesol fel hyn yn allweddol i ddatblygiad y diwydiannau creadigol yma yng Nghymru a thu hwnt".
"Mae'r ddwy ysgoloriaeth yn cynnig profiadau unigryw o gydweithio'n rhyngwladol ac yn Gymreig, gan gyfuno technoleg ddigidol â'r maes creadigol a diwylliannol," meddai.
Bydd y ddoethuriaeth mewn cydweithrediad â'r Eisteddfod yn canolbwyntio ar gyfleoedd digidol wrth i'r Brifwyl ddatblygu a gweithredu ei strategaeth ryngwladol.
Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses y bydd yr ymchwil yn "bwydo'n strategaethau hir dymor".
"Bydd yr ysgoloriaeth hon yn darparu cyfle unigryw i'r unigolyn i fod yn rhan o ddatblygiad cyffrous yn hanes yr Eisteddfod wrth i ni fireinio'n blaenoriaethau a chreu gŵyl ddeinamig ryngwladol ei hapêl," meddai.
Dechrau ym mis Chwefror
Canolbwyntio ar ehangu straeon â darluniau i blant yn rhyngwladol fydd y PhD sy'n cydweithio gyda Graffeg.
"Mae Graffeg yn datblygu'u rhestr plant yn barhaus gyda llyfrau gan awduron a darlunwyr talentog, rhai ag enw da yn rhyngwladol," meddai Peter Gill o'r cwmni.
"Bydd yr ysgoloriaeth PhD yn caniatáu inni neilltuo adnoddau i weithio gyda chyhoeddwyr ledled Ewrop a gogledd America i ehangu ein cyd-argraffiadau print a sicrhau cyfleoedd digidol gyda chyhoeddwyr eraill."
Mae'r dyddiad cau i wneud cais am yr ysgoloriaethau ar 7 Hydref, gyda'r cynlluniau PhD i ddechrau ym mis Chwefror 2020.