Gwahardd staff mewn cartref plant am negeseuon 'amhriodol'

  • Cyhoeddwyd
WhatsAppFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae pedwar aelod o staff oedd yn gweithio mewn cartref gofal plant yn sir Caerffili wedi cael eu gwahardd rhag gweithio yn y sector am o leiaf pum mlynedd.

Clywodd gwrandawiad yng Nghaerdydd fod y grŵp wedi anfon negeseuon "sarhaus ac amhriodol" ar WhatsApp, gan ddefnyddio iaith gref i ddisgrifio'r plant oedd yn eu gofal.

Fe welodd ddau blentyn y negeseuon a dianc o'r cartref cyn dechrau anafu eu hunain.

Roedd y grŵp WhatsApp wedi cael ei sefydlu gan reolwr y cartref, Scott Grubb er mwyn i staff allu "arllwys eu teimladau".

'Sylwadau amhriodol'

Fe wnaeth un o'r plant weld y negeseuon a chymryd llun o'r drafodaeth cyn dangos i blentyn arall yn y cartref.

Fe wnaeth y ddau ddianc o'r cartref cyn dechrau anafu eu hunain ychydig wedi iddyn nhw weld y negeseuon.

Mae Mr Grubb sydd a 26 mlynedd o brofiad yn y diwydiant wedi cael ei ddiarddel oddi ar y gofrestr broffesiynol am "sylwadau hynod amhriodol".

Dywedodd cadeirydd y panel, Islwyn Jones fod y digwyddiad wedi arwain at bobl ifanc yn "colli ffydd yn eu gwarchodwyr".

Ni wnaeth Mr Grubb fynychu'r gwrandawiad wnaeth bara wythnos.

Roedd y tri aelod arall o staff y cartref hefyd yn absennol ac fe benderfynodd y panel y dylai Ross Sheehan, Sarah Davies a Megan Boulter gael eu dileu oddi ar y rhestr broffesiynol er mwyn "gwarchod y cyhoedd".

Bydd modd iddyn nhw wneud cais i ymuno ar gofrestr ar ôl pum mlynedd.

Dywedodd rheolwr rhanbarthol y cartref, Esther Dawson ei bod wedi "dychryn" ar ôl gweld y negeseuon.

Fe gafodd dau achos arall o gamymddwyn ei ystyried gan y panel yn erbyn Christopher Lloyd a Rachel Williams.

'Siomedig'

Fe wnaeth y ddau gyfaddef i ysgrifennu negeseuon yn grŵp WhatsApp.

Daeth y panel i'r casgliad nad oedd hyn yn amharu arnyn nhw i barhau i weithio. Mae'r ddau bellach wedi dod o hyd i waith gyda chwmni arall yn y sector gofal.

Dywedodd Christopher Lloyd, a oedd yn is-reolwr y cartref gofal yn 2017 ei fod "wedi dychryn ei fod wedi caniatáu ei hun i fod yn rhan o'r grŵp.

"Mae'r derminoleg nes i ddefnyddio, dydw i ddim yn defnyddio iaith fel hyn yn aml, ond dyna sydd wedi'i ysgrifennu.

"Roedd yn gwbl anaddas a ni ddylai fod wedi digwydd. Rwy'n hynod siomedig ynof i fy hun," meddai.