Merch 10 oed yn dychwelyd i'r ysgol wedi triniaeth canser

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Maisy yn hapus i fod yn yr ysgol wedi cemotherapi

Mae merch 10 oed o Ynys Môn wedi dychwelyd i'w hysgol wedi triniaeth lwyddiannus ar diwmor enfawr.

Cafodd Maisy Fitzmaurice ddiagnosis o ganser yr ofarïau ym mis Ebrill.

Ond dychwelodd i Ysgol Gynradd Amlwch ddydd Gwener ar ôl gadael Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl.

Bydd nawr yn ailgydio yn ei haddysg gyda help robot o'r enw Pam.

'Misoedd anodd'

Yn ôl ei thad, Tony Fitzmaurice, roedd y misoedd diwethaf yn "anodd i'r teulu".

"[Fe wnaeth] hi gael operation mawr, a'r doctors yn tynnu seven-pound tumour o'i stumog hi.

"Roeddan nhw'n dweud ei fod fel tynnu babi allan o hogan 10 oed."

Mae'n ddefod ar ddiwedd triniaeth lwyddiannus yn Ysbyty Alder Hey i'r claf ganu cloch i nodi'r achlysur.

Dywedodd Maisy bod cael y cyfle i wneud hynny ddydd Mawrth yn brofiad "hapus a da".

Disgrifiad,

Carole Richardson yw dirprwy bennaeth Ysgol Gynradd Amlwch

Dychwelodd i'r ysgol ddydd Gwener, wrth i'w chyd-ddisgyblion a'i hathrawon gynnal diwrnod o godi arian i elusen CLIC Sargeant yn yr ysgol.

Mae ei ffrindiau wedi bod yn ysgrifennu negeseuon iddi a'u rhoi mewn bocs, fel bod Maisy'n gallu eu darllen wrth iddi ddod at ei hun.

Bydd modd iddi hefyd fod yn rhan o'r gwersi yn yr ysgol, hyd yn oed os nad ydy hi'n medru dod i'r dosbarth os ydy hi'n teimlo'n sâl neu'n wan.

Cwrdd â enwogion

Mae hynny diolch i'r robot AV1 - sy'n cael ei 'nabod yn y dosbarth dan yr enw Pam.

"Ni ydy'r ysgol gyntaf yng Nghymru i gael robot fel hwn," meddai Carole Richardson, dirprwy bennaeth yr ysgol.

"Pan 'da ni'n dysgu bydd y robot yn medru gweld fi a be' 'da ni'n drafod.

"Mae gan Maisy dabled adra a bydd hi'n gallu gweld be' mae'r robot yn gallu'i weld.

"Bydd Maisy yn gallu ateb cwestiynau a gweld yn union be' 'da ni'n 'neud fel ei bod hi ddim yn methu allan ar ei haddysg hi."

Yn ystod ei chyfnod o gemotherapi, mae Maisy wedi cael cyfarfod nifer o enwogion o'r byd pêl-droed, gan gynnwys Gareth Bale, Jamie Carragher a Ryan Giggs.

Cafodd gwrdd â'r actor a'r awdur David Walliams hefyd.

Bydd yn dychwelyd i Ysbyty Alder Hey am brofion pellach ymhen tri mis - ond mae'n gobeithio dychwelyd i'r ysgol yn llawn amser cyn hir.