Y Bencampwriaeth: Hull City 2-2 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Danny Ward yn dathlu'r gôl wnaeth ddod â Chaerdydd yn gyfartal am yr eildroFfynhonnell y llun, Shaun Flannery/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Danny Ward yn dathlu'r gôl wnaeth ddod â Chaerdydd yn gyfartal am yr eildro

Fe lwyddodd Caerdydd i daro'n ôl ddwywaith i sicrhau pwynt oddi cartref mewn gêm lawn cyffro yn Hull.

Roedd tîm Neil Warnock ar ei hôl hi ar yr egwyl wedi cic rydd arbennig o bell gan Kamil Grosicki ym munud olaf yr hanner cyntaf, er i'r golwr, Alex Smithies, gael llaw ar y bêl.

Roedd Caerdydd yn gyfartal wedi 55 o funudau wedi i Robert Glatzel anelu ergyd droed dde o agos i ganol uchaf y rhwyd.

Wedi i Jordy de Wijs benio o gic rydd i sgorio ail gôl Hull yn hwyr yn yr ail hanner, roedd amser yn brin i Gaerdydd daro'n ôl.

Ond gyda dwy funud o'r 90 yn weddill fe sgoriodd Danny Ward i sicrhau bod Caerdydd yn osgoi gadael Hull yn waglaw.

Mae Caerdydd yn codi un safle i'r 12fed yn y table gyda 13 o bwyntiau.