Pro14: Scarlets 18-10 Connacht
- Cyhoeddwyd
Roedd yna ddechrau da i ymgyrch Pro14 y Scarlets yn eu gêm gystadleuol gyntaf dan y prif hyfforddwr newydd, Brad Mooar gyda buddugoliaeth o 18-10 yn erbyn Connacht.
Fe diriodd Steff Evans a Paul Asquith yn yr hanner cyntaf i'w gwneud hi'n 12-3 wedi'r hanner cyntaf.
Enillodd y gwrthwynebwyr rywfaint o dir yn yr ail hanner, mewn tywydd garw, ond fe gadwodd y Scarlets afael ar y fantais, diolch i gicio Dan Jones a gyfrannodd wyth o bwyntiau.
Roedd 15 aelod o garfan y Scarlets ar ddyletswydd ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd yn Japan, ond roedd tri na chafodd eu cynnwys yng ngharfan Cymru - y propiau Rob Evans a Samson Lee, a'r asgellwr Steff Evans - yn cychwyn y gêm i'r tîm cartref.
Scarlets:
McNicholl; Conbeer, S Hughes (capt), Asquith, S Evans; D Jones, Hardy; R Evans, M Jones, Lee, Cummins, Rawlins, T Phillips, Macleod, Cassiem.
Eilyddion: T Davies, P Price, Kruger, Helps, Davis, Blacker, O'Brien, Baldwin.
Connacht:
O'Halloran; S Fitzgerald, Godwin, Daly, Healy; C Fitzgerald, Blade; McAllister, McCartney, Bealham, Thornbury, Roux, Masterson, Fainga'a, Butler (capt).
Eilyddion: Delahunt, Buckley, Robertson-McCoy, Dillane, McKeon, Marmion, Robb, Leader.