Pro14: Southern Kings 27-31 Gleision Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Matthew Morgan dan bwysauFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Matthew Morgan sgoriodd un o geisiau'r Gleision

Fe wnaeth Gleision Caerdydd daro'n ôl i sicrhau buddugoliaeth ddramatig a phwynt bonws wrth i ymgyrch Pro14 eleni ddechrau yn erbyn Southern Kings yn Port Elizabeth.

Roedden nhw'n colli o 13-5 ar yr egwyl wedi ciciau Demetri Catrakilis a chais Tienie Burger, er i Olly Robinson dirio hefyd yn Stadiwm Bae Nelson Mandela.

Ond yn yr ail hanner roedd yna geisiau pellach gan Liam Belcher, Matthew Morgan, Kristian Dacey a Harri Millard.

Fe wnaeth diffyg disgyblaeth achosi problemau i'r Gleision am gyfnod ac fe gafodd y maswr Jarrod Evans, a'r wythwr a'r capten Nick Williams eu hanfon i'r gell gosb.

Bu'n rhaid i Williams adael y cae ar ôl cael anaf yn ystod tacl uchel.

Gyda'r sgôr mor agos, a'r chwiban olaf funudau i ffwrdd, cafodd olynydd Williams, Will Boyde hefyd ei hel i'r gell gosb ac fe geisiodd y tîm cartref eu gorau glas i wneud i'r fantais gyfrif.

Ond ofer roedd eu hymdrechion i ychwanegu pwyntiau munud olaf wrth i'r Gleision amddiffyn y gadarn i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Southern Kings:

Loubster; Hollis, Mnisi, Jackson, Penxe; Catrakilis, Ungerer; Tshakweni, Van Rooyen, Scholtz, Sexton, Astle (capt), Burger, De Wee, Badiyana

Eilyddion: Du Toit, Vos, De Klerk, Fortuin, Louw, Allderman, Pretorius, Sithole

Gleision Caerdydd:

M Morgan; Harries, G Smith, Halaholo, Summerhill: J Evans, L Williams; Thyer, Belcher, Arhip, S Davies, Thornton, Turnbull, Robinson, N Williams (capt)

Eilyddion: Dacey, Domachowski, Andrews, Lewis-Hughes, Boyde, L Jones, Tovey, Millard.