Glaw trwm yn achosi trafferthion i deithwyr yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Cerbyd dan ddŵr wedi llifogydd ar ffordd yng Nghaerffili
Mae ffyrdd ar gau, trenau wedi eu dargyfeirio a chyflenwadau trydan wedi torri mewn rhai mannau yn dilyn glaw trwm dros nos.
Bydd bysiau yn lle trenau rhwng Machynlleth a'r Drenewydd tan ddiwedd nos Lun oherwydd llifogydd.

Afon Tywi yng Nghaerfyrddin nos Sul wedi'r glaw trwm

Llanw uchel yng Nghaerfyrddin nos Sul wedi'r glaw trwm
Nos Sul roedd yna lanw uchel yng Nghei Caerfyrddin wedi i'r afon Tywi godi.
Y cyngor gan Heddlu De Cymru yw i yrwyr gymryd pwyll gan fod "amodau gyrru'n dal yn wael iawn", ac i ganiatáu digon o amser ychwanegol ar gyfer pob siwrne.
Mae rhybudd melyn pellach am law trwm, dolen allanol wedi ei gyhoeddi sy'n berthnasol i bob un o siroedd Cymru rhwng 15:00 ddydd Llun tan 15:00 ddydd Mawrth.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi nifer o rybuddion llifogydd ar draws Cymru.
Dywedodd llefarydd bod swyddogion yn archwilio amddiffynfeydd a chlirio gridiau draenio i leihau'r risg i bobl a'u cartrefi.
"Mae'r llanw uchel yn parhau i achosi pryder ar hyd yr arfordir dros y dau ddiwrnod nesaf, ond gyda'r rhagolygon o law mae'n bwysig i gofio bod yna risg o hyd o lifogydd mewndirol o afonydd a dŵr arwyneb.
"Rydym eisiau i bobl fod yn ymwybodol bod dŵr llifogydd yn gallu bod yn beryglus iawn, a dylai pobl ddim ceisio i gerdded neu yrru trwyddo oni bai am dan gyfarwyddyd y gwasanaethau brys."

Llifogydd yn Llanbedr-y-Fro ym Mro Morgannwg
Bu'n rhaid cau'r ffyrdd canlynol oherwydd llifogydd:
Yr A48 Ffordd Caerfyrddin rhwng yr M4 (Cylchfan Pont Abraham) a Fforest
Yr A40 i'r ddau gyfeiriad rhwng yr A483 a Manordeilo yn Sir Gaerfyrddin
Yn Abertawe, yr A484 i'r ddau gyfeiriad o'r A4240 (Cylchfan Llwchwr) i'r B4296 Ffordd Fictoria (Tregŵyr)
Ym Mhowys, yr A458 o'r B4392 (Cyfronydd) i'r B4389 (Glascoed)
Yr A487 Pont Dyfi i'r ddau gyfeiriad rhwng yr A493 a gorsaf Machynlleth
Yr A4059 i'r ddau gyfeiriad rhwng Aberpennar a'r A472 (Cylchfan Abercynon)

Mae'r rhybudd sy'n dod i rym brynhawn Llun yn berthnasol i bob rhan o Gymru
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Medi 2019