Dim cynllun brechu gorfodol yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
BrechiadauFfynhonnell y llun, BSIP
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhieni pob un plentyn yng Nghymru yn cael cynnig dewis brechiadau rhag heintiau megis y Frech Goch, Clwy'r Pennau a Llid yr Ymennydd

Yn ôl Llywodraeth Cymru dydyn nhw ddim yn ystyried cynlluniau brechu gorfodol yma er mwyn mynd i'r afael â'r cynnydd mewn rhai afiechydon.

Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, Matt Hancock, ei fod e'n "ystyried o ddifri" a ddylai cynllun gorfodi brechu plant gael ei gyflwyno yn Lloegr er mwyn mynd i'r afael â'r cynnydd mewn afiechydon fel y frech goch.

Mae rhai arbenigwyr yn credu bod hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau nad yw nifer yr achosion o'r afiechydon yn cynyddu ymhellach.

Ond yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r nifer y rheini sy'n dewis rhoi'r brechiad MMR i'w plant, sy'n eu hamddiffyn rhag y frech goch, clwy'r pennau a brech yr Almaen, wedi parhau'n gyson, gydag ychydig yn llai na 95% o blant dyflwydd oed yng Nghymru wedi derbyn y brechiad erbyn mis Ebrill eleni.

Ffynhonnell y llun, Joe Amon
Disgrifiad o’r llun,

Rhaid i dros 95% o'r boblogaeth fod wedi eu brechu er mwyn gwarchod y boblogaeth rhag afiechydon, yn ôl arbenigwyr

Mae arbenigwyr yn dweud bod angen i 95% o blant fod wedi derbyn dau frechiad er mwyn gwarchod y boblogaeth rhag afiechyd.

Mewn digwyddiad yng nghynhadledd y Ceidwadwyr dywedodd Mr Hancock ei fod wedi gofyn am gyngor cyfreithiol ar sut i wneud cynlluniau brechu'n orfodol.

Yn Lloegr mae cyfran y plant pump oed sydd wedi derbyn y ddau frechiad MMR wedi syrthio dros y pedair blynedd diwethaf i 87.2%.

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, eisioes wedi dweud bod rhaid i bobl ddod yn ymwybodol o fudd brechiadau, ac mae'n rhybuddio yn erbyn effaith ymgyrchoedd gan ymgyrchwyr gwrth-frechu.